Gwrthwynebiad i gynllun trac rasio 拢200m yng Nglyn Ebwy

Ffynhonnell y llun, Good Relations Wales PR

Disgrifiad o'r llun, Dywed cefnogwyr y prosiect y byddai miloedd o swyddi'n cael eu creu ar y safle 830 erw (335 hectar)

Mae gr诺p ymgyrchu yn gwrthwynebu cynlluniau i adeiladu trac rasio gwerth 拢200 miliwn ar dir comin yn un o gymoedd y de.

Mae Cymdeithas y Lleoedd Agored yn honni y bydd y trac rasio yng Nglyn Ebwy yn niweidio'r amgylchedd ar gyrion Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Mae'r gr诺p yn galw ar Gyngor Blaenau Gwent i wrthod y cynlluniau.

Ond mae datblygwyr yn dweud fod lleddfu'r effaith amgylcheddol yn rhan allweddol o'r cais cynllunio ac maen nhw wedi addo gwella mynediad i'r tir comin.

Dywed cefnogwyr y prosiect y byddai miloedd o swyddi'n cael eu creu ar y safle 830 erw (335 hectar).

Mae'r cynlluniau'n cynnwys traciau cartio rhyngwladol a MotoCross, ynghyd 芒 pharc technoleg ar gyfer gwasanaethau ymchwil yn y sector cerbydau modur a champau modur.

'Tir comin unigryw'

Ond yn 么l ysgrifennydd cyffredinol Cymdeithas y Lleoedd Gwag, Kate Ashbrook, mae'r cynllun wedi ei glustnodi ar gyfer tir comin rhestredig y mae gan y cyhoedd yr hawl i'w ddefnyddio.

"Does ganddyn nhw ddim hawl i rwygo tir comin hyd yn oed os bydd y cais cynllunio yn cael ei gymeradwyo," meddai.

Ffynhonnell y llun, Other

Disgrifiad o'r llun, Mae'r datblygwyr am weld y MotoGP yn dod i'r cymoedd

"Bydd angen iddynt ddarganfod tir addas yn lle'r tir comin...mae'n anodd gweld sut y gallan nhw ddarganfod darn eang o dir tebyg a'i wneud yn dir comin.

"Rydym yn annog Cyngor Blaenau Gwent i ystyried yr effaith ddifrodus y byddai'r datblygiad hwn yn ei gael ar gefn gwlad a thir comin unigryw Cymru a gwrthod y cais cynllunio."

Dywedodd Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, sydd y tu 么l i'r fenter, fod asesiad amgylcheddol trwyadl wedi ei gynnal fel rhan o'r cais cynllunio.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: "Mae lleddfu'r effaith ar yr amgylchedd yn un o ofynion rheoliadau cynllunio ac mae materion amgylcheddol fel ecoleg a'r tirlun yn cael eu hystyried yn llawn.

"Mae Cwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd wedi bod yn rhagweithiol iawn o ran datblygu strategaeth i ddarganfod darn newydd o dir gyda mynediad agored a sicrhau bod mannau penodol o'r tir comin ar ein safle yn haws i gael atynt nag ar hyn o bryd.

"Mae trafodaethau gyda'r grwpiau priodol ynghylch y mater hwn yn parhau yn gadarnhaol."