麻豆官网首页入口

Coleg Harlech: Gwario 拢500,000 ar ymgynghoriad i godi adeilad newydd

  • Cyhoeddwyd
Coleg Harlech
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y coleg am ddatblygu Canolfan Cambria ar y safle

Mae ymchwiliad gan 麻豆官网首页入口 Cymru wedi darganfod fod Coleg Harlech wedi gwario bron i 拢500,000 ar gostau ymgynghorol ar gyfer adeilad sy'n annhebygol o gael ei adeiladu.

Cafodd yr arian ei wario fel rhan o gynllun i adeiladu canolfan Cambria.

Er doedd 'na fyth gytundeb mewn lle i ariannu'r cynllun.

Fe sefydlwyd Coleg Harlech yn 1927 ac mae'n cynnig addysg ar gyfer oedolion ar draws gogledd a chanolbarth Cymru.

Bum mlynedd yn 么l fe wnaeth awdurdodau'r coleg gais i ddatblygu rhan o gampws y coleg.

Roedd y cynllun yn cynnwys ail-ddatblygu Theatr Harlech, creu lle i arddangosfeydd yn ogystal ag adeiladu unedau ar gyfer busnesau a neuadd breswyl newydd i fyfyrwyr.

Roedd yr arian a gafodd ei wario gan y coleg ar y cyngor ymgynghorol i sicrhau caniat芒d cynllunio ar gyfer y ganolfan.

Angen atebion

Ond methiant fu ymdrechion awdurdodau'r coleg i sicrhau'r buddsoddiad ariannol oedd ei angen gan Ewrop a Llywodraeth Cymru er mwyn dechrau'r gwaith o adeiladu'r ganolfan.

Yn 么l un darlithydd yn y coleg sydd ddim am ddatgelu ei enw, mae gan awdurdodau'r coleg gwestiynau i'w hateb.

"Dwi'n meddwl y bydd pobl yn cael sioc gan ei fod yn ffigwr mor anferthol.

"Pam ein bod yn gwario'r math yma o arian ar ymgynghorwyr allanol?

"Mae'n gwneud i rywun feddwl sut cafodd y cytundeb yma ei wneud, pwy wnaeth y cytundeb a phwy arwyddodd y cytundeb."

Aeth ymlaen i ddweud nad oedd yn gwybod sut all y coleg barhau heb i rywun gymryd y ddyled drosodd.

"Fe fydd hynny yn golygu uno coleg arall sy'n fodlon derbyn y ddyled a dwi ddim yn credu bydd hynny'n digwydd," meddai.

"Mae'n anfaddeuol, yn annealladwy.

"Fe ddylai rhywun fod wedi goruchwylio hyn. Wnaethon nhw ddim a rhaid eu gwneud yn atebol."

Yn 2010 fe wnaeth Llywodraeth Cymru gomisiynu adroddiad i edrych ar ddarpariaeth preswyl i fyfyrwyr y coleg yn y dref.

Fe ddaethon nhw i'r casgliad nad oedd digon o achos i gynnig arian cyfalaf er mwyn ariannu'r cynllun.

拢900,000

Cyhoeddodd y coleg yn ddiweddar bod ganddo ddiffyg o 拢900,000 a bod swyddogion yn gweithio ar gynllun adfer i fynd i'r afael 芒'r ddyled.

Mae swyddogion yn ystyried lleihau nifer y staff, gwerthu tir ac asedau celfyddydol, a gofyn i Lywodraeth Cymru am fenthyciad tymor byr o 拢500,000.

Fe ddywedodd llefarwyr ar ran Coleg Harlech a Llywodraeth Cymru wrth 麻豆官网首页入口 Cymru nad oedd y 拢450,000 ar gostau ymgynghorol yn gysylltiedig 芒'r argyfwng ariannol presennol yn y coleg.

Dywedodd Coleg Harlech bod y cyllid ar gyfer y costau ymgynghorol ar gyfer Canolfan Cambria wedi dod o gyllid preifat ar y pryd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol