Carwyn Jones yn cyhoeddi newidiadau i'w gabinet

Disgrifiad o'r llun, Mark Drakeford yw'r Gweinidog Iechyd

Mae Prif Weinidog Cymru wedi ad-drefnu ei gabinet yn annisgwyl.

Lesley Griffiths yw'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau tra bod Carl Sargeant yn Weinidog Tai ac Adfywio.

Penodwyd Mark Drakeford, AC Gorllewin Caerdydd, yn lle Mrs Griffiths yn Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Fe yw'r yw'r unig wyneb newydd yn y cabinet ond mae Alun Davies sy'n symud o fod yn Ddirprwy Weinidog Amaeth i fod yn Weinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd.

Edwina Hart yw'r Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth ac mae Leighton Andrews yn dal i fod yn Weinidog Addysg.

John Griffiths yw'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon newydd ac mae Jane Hutt yn parhau'n Weinidog Cyllid.

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Tomos Livingstone

Daeth cyhoeddiad ar wefan Twitter fod Llywodraeth Cymru yn ad-drefnu'r cabinet.

Dadleuol

Mae newid gweinidog yn digwydd pan mae'r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru yn bwriadu cyflwyno newidiadau dadleuol i wasanaethau ysbytai.

Y portffolio iechyd yw un o'r mwya' yn y cabinet gyda chyllideb adrannol o bron 拢6 biliwn.

Cafodd Mr Drakeford ei ethol yn AC yn 2011 i olynu Rhodri Morgan ac mae'n gyn-gadeirydd pwyllgor trawsbleidiol y Cynulliad ar iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, roedd yn cynghori Mr Morgan.

Bydd Gwenda Thomas yn parhau'n Is-weinidog gyda chyfrifoldeb am Wasanaethau Cymdeithasol ac mae Jeff Cuthbert yn parhau fel Dirprwy Weinidog am Sgiliau ac yn ychwanegu technoleg at ei gyfrifoldebau.

'Hen wynebau'

Bydd Janice Gregory yn parhau'n Brif Chwip a Huw Lewis yn aros yn y cabinet fel y Gweinidog gyda chyfrifoldeb am Gymunedau a Thaclo Tlodi.

Wrth ymateb i'r newidiadau, dywedodd Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies, mai'r "un hen wynebau" oedd yn dal yno.

"Y gweinidogion yma sydd wedi bod yn gyfrifol am gyllideb y Gwasanaeth Iechyd, methiant systemig yn y byd addysg a llai o ffyniant yng Nghymru dros y degawd diwethaf.

"Mae'n gyfle sydd wedi ei golli, nad oedd Carwyn Jones yn ddigon dewr i ddiswyddo a disodli gweinidogion oedd yn perfformio'n wael."

Dywedodd Peter Black ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod yr ad-drefnu'n "ddibwys" ac mai'r canlyniad oedd bod un wyneb newydd yn y cabinet tra bod y gweddill yn "archebu cardiau busnes newydd".

"Mae pobl Cymru yn haeddu mwy na symud pobl o gwmpas.

"O dan Lafur Cymru mae'r Gwasanaeth Iechyd ar ymyl y dibyn, dyw'r system addysg ddim yn derbyn cyllid digonol ac mae'r economi ymhell y tu 么l i weddill y DU."

Gan fod y manylion wedi eu cyhoeddi ar Twitter, dywedodd Lindsay Whittle o Blaid Cymru ei bod hi'n "gwbl annerbyniol" rhedeg glwad yn y fath fodd.

"Mae gwleidyddion wedi cael eu symud o gwmpas ond mae angen ailystyried polis茂au a does 'na ddim tystiolaeth y bydd hynny'n digwydd o ran ad-drefnu ysbytai.

"Ond mae pobl Cymru eisiau newid y polis茂au."

'Uchelgeisiol'

Wrth gyhoeddi'r newidiadau, dywedodd y Prif Weinidog fod y newidiadau er mwyn i'r llywodraeth barhau i gyflwyno "rhaglen uchelgeisiol, datblygu economi Cymru a chreu gwlad o gyfloedd a chyfiawnder cymdeithasol".

"Swyddi a datblygu economi Cymru o hyd yw ein prif flaenoriaeth," meddai.

"Ond fe fyddwn ni hefyd yn gweithio yn ddiflino i wella sut rydyn ni'n cyflawni ein gwasanaethau cyhoeddus.

"Oherwydd fy addewid i wneud popeth i warchod pobl Cymru dwi wedi creu portffolio newydd yn benodol i wella bywydau'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd tlota', adeiladu cymunedau a chreu cyfleoedd i bawb.

"Dwi'n falch o fod 芒 th卯m cryf ac ymroddedig sy'n rhannu fy ngweledigaeth i o Gymru gadarn a llawn addewid ..."