Cyrff iechyd i gynnal trafodaethau 'ar frys'

Disgrifiad o'r llun, Cafodd cynlluniau i ad-drefnu gwasanaethau iechyd eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

Bydd yn rhaid i gyngor iechyd cymuned ail-gychwyn trafodaethau gyda bwrdd iechyd lleol ynghylch newidiadau i'r gwasanaeth iechyd nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Cafodd cynlluniau dadleuol i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn yr ardal yma o Gymru eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru gan Gyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda.

Ond fel un o benderfyniadau olaf Lesley Griffiths fel Gweinidog Iechyd cyn iddi drosglwyddo'r awenau i Mark Drakeford, mae hi wedi dweud wrth y corff sy'n gwarchod buddiannau cleifion yn yr ardal nad oedd cyfeiriad y cyngor iechyd cymuned yn cynnig dewisiadau eraill.

Mae Mrs Griffiths wedi gofyn i'r cyngor iechyd cymuned "ail-gychwyn trafodaethau" 芒 Bwrdd Iechyd Hywel Dda "ar frys" gan egluro pa gynigion rydyn nhw'n eu cefnogi a pha rhai maent yn eu gwrthod.

'Cynigion amgen'

Penderfynodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y byddai Mr Drakeford yn cymryd lle Mrs Griffiths fel Y Gweinidog Iechyd wrth iddo ad-drefnu ei gabinet ddydd Iau.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod yn rhaid i unrhyw gyfeiriad gan Gyngor Cymuned Iechyd ddangos opsiynau amgen maen nhw'n credu y bydd yn gwella'r gwasanaeth i gleifion.

Ychwanegodd: "Dyw'r cyfeiriad ynghylch Bwrdd Iechyd Hywel Dda ddim yn cynnwys cynigion amgen.

"Felly mae'r cyngor cymuned iechyd wedi eu gofyn i ail-gychwyn eu trafodaethau 芒'r bwrdd iechyd ar frys.

"Bydd yn rhaid i unrhyw gyfeiriadau gael eu cyflwyno gyda chynigion amgen manwl o ran y gwasanaethau dan sylw erbyn Ebrill 5."

Mae cyngor cymuned iechyd yn pryderu am gynlluniau Bwrdd Iechyd Hywel Dda, sy'n cynnwys newid y ffordd mae gofal brys yn cael ei gynnig yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, a chau'r Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg, Hwlffordd.

Anghenion poblogaeth

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru hefyd wedi cael ar ddeall fod Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda hefyd wedi cyfeirio'r cynlluniau i gau dwy uned m芒n anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod a De Penfro at y Gweinidog Iechyd, yn ogystal 芒 chynllun i gau Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr yn Y Tymbl.

Mae nifer o ymgyrchoedd lleol wedi brwydro i geisio amddiffyn y gwasanaethau.

Roedd Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cwrdd ar Ionawr 15 i wneud eu hargymhellion terfynol ar gynlluniau eang i ad-drefnu gwasanaethau iechyd yn yr ardal.

Roedd y cynlluniau'n cynnwys rhoi gofal brys yn Ysbyty'r Tywysog Philip, Llanelli, dan ofal nyrsys yn hytrach na meddygon.

Ond byddai'r ysbyty'n cadw uned asesu a meddygol brys 24 awr y dydd.

Byddai gofal cymhleth i fabanod yn cael ei ganoli yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin - gan olygu fod yr Uned Gofal Arbennig i Fabanod yn Ysbyty Llwynhelyg yn cau.

Cymeradwyodd y bwrdd iechyd hefyd gynlluniau i gau unedau m芒n anafiadau yn Ninbych-y-Pysgod a De Penfro.

Yn ogystal, byddai Ysbyty Cymunedol Mynydd Mawr - sy'n trin cleifion oedrannus - yn cau, gyda gwasanaethau'n cael eu cynnig yn y gymuned neu yn Ysbyty'r Tywysog Philip.

Roedd rheolwyr wedi mynnu bod yn rhaid bwrw 'mlaen gyda'r ad-drefnu er mwyn cwrdd ag anghenion poblogaeth sy'n heneiddio, cadw a recriwtio arbenigwyr meddygol, ac i gwrdd 芒'r pwysau ariannol ar y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.