麻豆官网首页入口

Ysbytai Cymru wedi derbyn 拢9 miliwn o roddion ewyllys

  • Cyhoeddwyd
Ward

Cafodd bron i 拢9 miliwn o arian ewyllys ei adael i ysbytai yng Nghymru yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Y rhodd fwyaf oedd 拢630,00 ar gyfer gwasanaethau gofal a lliniaru diwedd oes yng nghanolbarth a de Powys.

Hefyd roedd rhodd o 拢442,000 i uned radio therapi Singleton yn Abertawe a 拢168,000 ar gyfer gofal canser yn Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Sir Ddinbych.

Dywed swyddogion fod y rhoddion annisgwyl yn gwneud gwahaniaeth mawr.

"Mae rhodd neu etifeddiaeth yn ein galluogi i brynu offer, cynnig hyfforddiant neu fynd ati i wneud gwaith hynod bwysig," meddai Kirsty Thomson, swyddog gyda Chronfa Betsi yng ngogledd Cymru.

Mae Cronfa Betsi yn gyfrifol am reoli 290 cronfa sy'n cefnogi'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd dan reolaeth Bwrdd iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae Bwrdd Iechyd Cadwaladr, y bwrdd iechyd mwyaf yng Nghymru, wedi derbyn 拢4,272,042 yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Daw'r ffigyrau ar 么l cais rhyddid gwybodaeth gan 麻豆官网首页入口 Cymru.