麻豆官网首页入口

Addewid Gweinidog Iechyd Cymru i ad-drefnu ysbytai

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Owain Clarke yn holi Mark Drakeford, Gweinidog Iechyd newydd Cymru

Mae Gweinidog Iechyd newydd Cymru, Mark Drakeford, wedi dweud ei fod am ddod 芒 phroses ad-drefnu ysbytai i ben yn llwyddiannus.

Amlinellodd Mr Drakeford, AC Gorllewin Caerdydd, ei brif flaenoriaethau wrth dyngu llw ar ddechrau ei swydd newydd ddydd Llun.

Mae yn lle Lesley Griffiths wedi i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ad-drefnu ei gabinet yr wythnos diwethaf.

Mae byrddau iechyd yn cyflwyno cynlluniau dadleuol ar hyn o bryd ac mae Mr Jones wedi pwysleisio na fydd 'na newid polisi.

'Diogel a chynaliadwy'

Dywedodd Mr Drakeford fod pobl eisiau "sicrwydd" am sut y byddai'r y gwasanaeth yn edrych yn y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen newidiadau er mwyn gwneud y gwasanaeth yn ddiogel ac yn gynaliadwy.

Eisoes mae nifer o brotestiadau wedi bod mewn gwahanol ardaloedd oherwydd y cynlluniau gafodd eu cyhoeddi.

Mae rhai cynlluniau yn golygu cymunedau yn colli gwasanaethau ac yn arwain at fwy o deithio i gael triniaethau.

Un o'r argymhellion mwya' dadleuol yw symud gofal dwys i fabanod o ddau ysbyty yn y gogledd dros y ffin i'r uned arbenigol yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri.

Dywedodd Mr Drakeford: "Does gen i ddim barn eto (am gynlluniau'r gogledd) a dwi ddim wedi gweld manylion Arrowe Park eto.

"Fe fydda i'n trafod gyda'r Prif Weinidog sydd wedi ystyried y mater ac wedyn fe fydda i'n meddwl beth i'w wneud.

'Addasu'

"Dwi'n meddwl bod pobl angen gwybod beth fydd diwedd hyn," meddai ar 么l tyngu llw yn swyddfeydd y llywodraeth yng Nghaerdydd.

"Dwi eisiau gallu rhoi sicrwydd iddyn nhw.

"Unwaith mae 'na sicrwydd, dwi'n meddwl y bydd pobl yn byw gyda hynny, yn addasu i hynny ac yn bwrw ymlaen gyda'r gwaith."

Ond awgrymodd hefyd y gallai byrddau iechyd wynebu problemau o ran peidio 芒 bod yn y coch yn ariannol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau, meddai, roedd am gael gwybod yr holl fanylion ac ystyried pa wersi roedd modd eu dysgu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol