麻豆官网首页入口

Datgelu cyfraddau marwolaeth ysbytai Cymru

  • Cyhoeddwyd
Arwydd Ysbyty Stafford
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe ddaw cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 么l cyhoeddi adroddiad damniol am Ysbyty Stafford

Mae gan 11 ysbyty cyffredinol allan o 17 gyfradd marwolaeth "uwch na'r disgwyl" yng Nghymru.

Golyga ystadegau newydd Llywodraeth Cymru fod modd cymharu'r gyfradd o ysbyty i ysbyty.

Mae'r manylion yn dangos beth yw cyfraddau marwolaethau ysbytai unigol ac mae'r manylion wedi eu cymhwyso wrth ystyried pa mor ddifrifol oedd cyflwr claf pan aeth i mewn i'r ysbyty.

Yn 么l swyddogion Llywodraeth Cymru, mae'r ffigyrau'n "codi pryderon".

'Ysgytwol'

Dywedodd Ann Clwyd AS fod cyfradd Ysbyty Athrofaol Cymru'n "ysgytwol".

Mae hi'n cynghori'r prif weinidog yngl欧n 芒 sut y dylai'r Gwasanaeth Iechyd ynateb i gwynion.

Cafodd hi ei hapwyntio wedi'r AS gwyno am safon y gofal gafodd ei g诺r, Owen Roberts, yn yr ysbyty.

"Dwi'n gobeithio y bydd y cyfraddau marwolaeth yn rhybudd i Lywodraeth Cymru y dylen nhw wirio ansawdd gofal cleifion yn yr ysbytai hyn.

"Dwi'n benderfynol o ddarganfod y rheswm am y gyfradd uchel yn Ysbyty Athrofaol Cymru, yn enwedig o gofio bod Owen yn un o'r ystadegau."

'Ffydd'

Dywedodd Dr Graham Shortland, Cyfarwyddwr Meddygol Ymddiriedolaeth Brifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae gennym ni bob ffydd yn ein staff a'r gofal y maen nhw'n ei ddarparu ac yn hyderus oherwydd gwybodaeth dulliau eraill o fesur ansawdd a diogelwch."

Hwn yw'r tro cyntaf i'r ystadegau am gyfraddau marwolaethau ysbytai gael eu cyhoeddi ar gyfer Cymru gyfan.

Yn 么l Llywodraeth Cymru, mae'r manylion yn cael eu cyhoeddi mewn un lle'r un pryd "er mwyn dangos tryloywder o fewn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru".

Fe ddaw'r cyfan wedi ymchwiliad cyhoeddus i sgandal Ysbyty Stafford lle bu farw cannoedd o gleifion yn ddiangen oherwydd esgeulustod a gofal o safon isel.

Pan gyhoeddwyd yr adroddiad am Ysbyty Stafford, roedd Mark Drakeford AC yn gadeirydd pwyllgor iechyd y Cynulliad Cenedlaethol.

'Yn berthnasol'

Dywedodd ar y pryd fod rhai argymhellion yn yr adroddiad "yn berthnasol heb amheuaeth," er enghraifft y byddai unrhyw gynllun i gofrestru pobl sy'n gweithio mewn ysbytai a chartrefi preswyl yn Lloegr yn effeithio ar Gymru.

Mr Drakeford yw Gweinidog Iechyd Cymru yn sgil ad-drefnu cabinet Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf.

Nod Llywodraeth Cymru wrth gyhoeddi'r ystadegau yw galluogi'r cyhoedd i gael gafael ar wybodaeth bwysig yn haws.

Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn helpu gwneud y GIG yng Nghymru "yn fwy agored".

Amheuaeth

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, fod yr awgrym fod y cyfraddau marwolaeth yn uwch mewn ysbytai mwy yn bwrw amheuaeth ar gynllun ad-drefnu Llywodraeth Cymru.

"Rhaid i'r gweinidog weithredu ar frys ac ymchwilio i'r ysbytai lle mae cyfraddau uchel ...," meddai.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams: "Dwi ddim yn cymharu hyn 芒'r hyn ddigwyddodd yn Ysbyty Stafford.

"Ond oherwydd problemau enfawr casglu gwybodaeth ac yn wyneb y ffaith nad yw'r byrddau iechyd na Llywodraeth Cymru 芒 rheolaeth lwyr ar y sefyllfa, dwi'n poeni na fyddwn ni'n gallu adnabod problemau difrifol yn ein hysbytai os oedden nhw'n codi."