Mwy o ysgolion yn wynebu mesurau arbennig

Disgrifiad o'r llun, Cafodd gwasanaethau addysg Merthyr Tudful a Sir Fynwy eu gosod dan fesurau arbennig ym mis Chwefror

Mae chweched awdurdod addysg yng Nghymru'n wynebu cael ei rhoi dan fesurau arbennig gan gorff arolygu addysg Estyn.

Awdurdod addysg Cyngor Torfaen yw'r trydydd eleni i gael eu rhoi o dan fesurau o'r fath.

Yr un oedd tynged gwasanaethau addysg Sir Fynwy a Merthyr Tudful ym mis Chwefror.

Fe gynhaliwyd arolwg o wasanaethau addysg Torfaen i blant a phobl ifanc ym mis Hydref 2011, ac fe gafodd yr awdurdod ei ddynodi fel un oedd "angen gwelliannau sylweddol".

Yn dilyn ymweliad monitro pellach ym mis Chwefror, mae'r cyngor nawr wedi cael gwybod eu bod yn cael eu rhoi o dan "fesurau arbennig".

Er bod yr awdurdod wedi gwneud rhai gwelliannu yn unol ag argymhellion gwreiddiol Estyn, nid yw'r gwelliannau yn ddigonol nac yn ddigon cyflym i fodloni'r arolygwyr.

Cam nesaf

Bydd y cyngor nawr yn adolygu'r cynllun ac yn gweithio gydag arolygwyr a Llywodraeth Cymru i frysio a dwysau'r gwelliannau.

Mae'r arolygwyr wedi argymell y dylai'r cyngor ddarparu mwy o heriau a chefnogaeth i ysgolion, a defnyddio ystadegau canlyniadau i wella monitro a hunanwerthuso er mwyn dwyn y gwasanaeth addysg i gyfrif.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Bob Wellington, a'r Prif Weithredwr Alison Ward:

"Rydym yn derbyn canlyniadau Estyn yn llawn. Rydym wedi methu 芒 chyrraedd nod ein disgwyliadau ein hunain, disgwyliadau'r trigolion a disgwyliadau'r gweinidog addysg ac rydym yn ymddiheuro am hyn.

"Mae ein perfformiad wedi gwella - mae Estyn yn cydnabod hynny - ond nid yw'r gwelliannau wedi bod yn ddigon cyflym nac wedi mynd yn ddigon pell i fodloni'r arolygwyr.

"Rydym yn rhannu dyhead y gweinidog i godi safonau'r addysg yr ydym yn ei ddarparu i'n pobl ifanc.

"Rydym hefyd yn derbyn bod angen cefnogaeth allanol i wella perfformiad. Byddwn yn gwarantu ein hymrwymiad llwyr i weithio gydag ymgynghorwyr allanol, ac fel arweinydd a phrif weithredwr fe fyddwn yn gweithio'n uniongyrchol gyda swyddogion i sicrhau bod gwelliannau'n cyflymu ac y byddwn yn datrys gwendidau sy'n parhau.

"Hoffwn dawelu ofnau trigolion Torfaen gan ddweud bod addysg yn flaenoriaeth i ni. Rydym wedi parhau i fuddsoddi mewn addysg ac er gwaetha'r hinsawdd bresennol o doriadau rydym wedi cynyddu'r gyllideb i ysgolion."

Ymateb

Mewn ymateb i'r datblygiad, dywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews:

"Mae'n hynod siomedig gweld bod awdurdod sydd wedi elwa o arolwg Estyn, ac wedi cael argymhellion clir i weithredu arnynt, wedi methu 芒 mynd i'r afael gyda'r materion hynny ar frys.

"Mae angen i'n hymateb ni wella'r canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc yr ardal, ond mae'n rhaid i unrhyw beth 'da ni'n wneud fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor. O'r herwydd bydd fy adran i'n ystyried dros yr wythnosau nesa' sut orau i ymateb. Bydd aelodau'r Cynulliad yn cael clywed yn llawn am ein cynllun gweithredu cyn gynted ag y byddwn wedi penderfynu."

Yn 么l llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Aled Roberts: "Mae cyngor Torfaen wedi bod yn cael trafferthion ers sbel rwan, ond mae'n dal yn hynod siomedig nad ydyn nhw wedi llwyddo i wella pethau.

"Mae'n rhaid cwestiynu rwan pam nad oedd 'na fwy o gefnogaeth gan Lywodraeth Lafur Cymru i atal hyn rhag digwydd."

Meddai Simon Thomas, llefarydd Plaid Cymru ar addysg: "Pam fod y gweinidog addysg wedi aros i weld yn hytrach na chyflwyno'r hyn mae'n ffafrio'n syth, fel y gwnaeth yn achos cyngor Merthyr? Rydym angen cysondeb gan Lywodraeth Cymru ac, yn anad dim, rydym angen gweledigaeth ar gyfer r么l awdurdodau addysg yng Nghymru."