Neges Carwyn: 'Dim troi nol ar iechyd'

Disgrifiad o'r llun, Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Ni fydd Llywodraeth Cymru yn troi n么l ar gynlluniau i ddiwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol - dyna fydd neges Carwyn Jones i gynhadledd wanwyn Llafur Cymru yn Llandudno.

Mae cynlluniau i ad-drefnu'r gwasanaeth - gan gynnwys cau nifer o ysbytai - wedi arwain at brotestio ar draws Cymru.

Cafodd Mark Drakeford ei benodi'n weinidog iechyd gan Mr Jones wrth ad-drefnu ei gabinet.

Mae disgwyl i'r prif weinidog ddweud wrth y gynhadledd na fydd newid polisi, ac y bydd rhaid gwneud "penderfyniadau anodd".

Bydd hefyd yn dweud bod y blaid ar ei chryfaf ers datganoli, ond eto bod angen newid.

Prif neges arall y gynhadledd yw bod Llywodraeth Cymru yn "amddiffyn cornel Cymru", drwy gynnig "dewis amgen" i bobl Cymru, rhyngddynt hwy a'r glymblaid yn San Steffan.

Bydd yn cyfeirio at "lwyddiant" rhaglen waith y llywodraeth - Twf Swyddi Cymru - sy'n ceisio helpu pobl ifanc rhwng 16-24 mlwydd oed gael gwaith.

Yn 么l y Blaid, mae'r cynllun "wyth gwaith yn fwy llwyddiannus" o'i gymharu 芒 rhaglen gyfatebol llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd un o wynebau newydd y cabinet, y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford, yn traddodi araith brynhawn Sadwrn. Ond mae hefyd disgwyl y bydd ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu ad-drefnu'r gwasanaeth iechyd ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn teithio i Landudno i leisio'u barn.

Adroddiadau am densiynau

Daw'r gynhadledd ar ddiwedd wythnos o adroddiadau am densiynau rhwng Carwyn Jones ac aelodau seneddol Cymreig y blaid. Fis diwethaf amlinellodd Mr Jones dystiolaeth ei lywodraeth i'r comisiwn sy'n ystyried adolygu pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Roedd datganiad Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiwn Silk yn cynnwys galwad i ddatganoli pwerau dros blismona. Ond mae'n debyg bod rhai Aelodau Seneddol yn anhapus ac yn dweud nad oedd hynny wedi ei drafod gyda nhw o flaen llaw.

Mae'n ymddangos hefyd bod anghytuno dros ddymuniad Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyfiawnder troseddol yn y 'tymor hir'.

Yn ddiweddar dywedodd aelod seneddol Caerffili Wayne David nad oedd y Blaid Lafur yn cefnogi system cyfiawnder ar wah芒n i Gymru.

Bydd Carwyn Jones yn traddodi araith ddiwedd bore Sadwrn ac Owen Smith AS, Ysgrifennydd Gwladol yr Wrthblaid, brynhawn Sadwrn. Fore Sul bydd Arweinydd Llafur Ed Miliband yn areithio.

Mae'r gynhadledd yn cael ei chynnal yn Llandudno ddydd Sadwrn a dydd Sul.