Achub teulu o'u ffermdy ar 么l dechrau llosgi dodrefn i gadw'n gynnes

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Achosodd yr eira drafferthion i sawl ardal gyda'r gogledd ddwyrain yn cael ei effeithio waetha'

Bu'n rhaid i deulu yng Ngwyddelwern, Sir Ddinbych, gael eu hachub gan hofrennydd y Llu Awyr o'u ffermdy ar 么l bod yn gaeth yno am bedwar diwrnod.

Doedd gan y teulu ddim gwres ac roedden nhw wedi dechrau llosgi dodrefn er mwyn cadw'n gynnes.

Aed 芒'r pedwar i Ysbyty Maelor Wrecsam ond doedd dim angen triniaeth arnyn nhw.

Wedi'r eira ddiwedd yr wythnos diwethaf a dros y penwythnos, mae'r tymheredd yn disgyn ac mae 'na rybudd y gallai rhew achosi trafferthion ar y ffyrdd fore Llun.

Achosodd yr eira drafferthion i sawl ardal gyda'r gogledd ddwyrain yn cael ei effeithio waetha'.

Bu dros 6,000 o gartrefi heb gyflenwad trydan ar un cyfnod, ond mae'r mwyafrif bellach wedi cael eu trydan yn 么l yn ardal Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy.

Rhybudd

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai eira sy'n meirioli droi'n i芒 ar balmentydd a ffyrdd ddydd Llun.

Roedd ganddyn nhw rybudd melyn yng Ngwynedd, Ynys M么n, Conwy, Sir Ddinbych, Powys, Wrecsam a Sir y Fflint tan 9am fore Llun.

Roedd disgwyl i'r tymheredd dros nos fod yn disgyn cyn ised 芒 -5C.

Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych wedi talu teyrnged i staff y cyngor am eu hymdrechion di-flino i ddelio gyda'r tywydd gaeafol.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Hugh Evans: "Mae timau wedi brwydro mewn tywydd garw i geisio cadw ffyrdd y sir ar agor.

"Mae hi bendant yn flynyddoedd maith ers i ni weld tywyd tebyg i hyn o'r blaen a chafodd nifer o gymunedau eu heffeithio dros y penwythnos, yn arbennig yn ne'r sir.

"Roedd y gwyntoedd cryfion wedi creu lluwchfeydd mawr ac roedd timau o staff y Cyngor, gyda chontractwyr lleol, wedi gweithio'n ddiwyd i glirio'r ffyrdd. Rwy'n diolch o waelod calon iddynt am eu hymdrechion."

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Mohammed Mehmet: "Rwy'n hynod falch o'r staff am weithio mewn amgylchiadau difrifol i'n cadw ni'n ddiogel.

"Mae hi wedi bod yn gyfnod annodd iawn ac mae fy niolch i'r timau a'r contractwyr ar lawr gwlad.

"Hoffwn ddioch i'r cyhoedd hefyd am eu dealltwriaeth. Rydym wedi clywed am esiamplau o gymunedau yn helpu'i gilydd yn y tywydd gaeafol - mae'n braf gweld ysbryd cymunedau mewn cyfnod o argyfwng."

Ffyrdd

Mae rhagolygon dydd Llun yn addo tywydd sych ar y cyfan ond yn oer iawn gydag ambell gawod eira yn y dwyrain yn bennaf.

Does dim disgwyl i hynny newid am weddill yr wythnos.

Erbyn nos Sul roedd mwyafrif ffyrdd y gogledd ar agor heblaw llond dwrn yn Sir Ddinbych.

Dywedodd y cyngor fod eu timau yn gweithio 24 awr er mwyn ceisio clirio'r gweddill.

Dyddd Llun mae ambell i ffordd ar gau yng Ngwynedd, Powys a Sir Ddinbych, gan gynnwys yr A5 rhwng Corwen a Llangollen.

Hefyd mae'r A4086 ym Mhen-y-Pass wedi cau, Bwlch yr Oernant a'r ffordd rhwng Llandegla a Chorwen.

Mae ysgolion yr holl ardaloedd dan sylw wedi dechrau eu gwyliau Pasg felly fydd dim rhaid cau drysau ysgolion o gwbl ddydd Llun.

Yn 么l Rhian Haf o wasanaeth tywydd Radio Cymru, fe fydd hi'n sych dros y dyddiau nesa' gyda'r eira yn meirioli.

"Ond mae angen bod yn ofalus gyda'r glaw ddiwedd yr wythnos a'r eira yn meirioli, mae posib y bydd 'na lifogydd," meddai.