'Diffyg trafnidiaeth i'r henoed yn arwain at deimlad o gaethiwed'

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Comisiynydd Pobl H欧n Cymru na ddylid anwybyddu'r angen am bwysigrwydd trafnidiaeth dda.

Mae nifer o bobl oedrannus yng Nghymru yn ei chael yn anodd teithio oherwydd toriadau i drafnidiaeth gyhoeddus, yn 么l elusen.

Mae adroddiad gan elusen y Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched (WRVS) yn awgrymu bod nifer yn teimlo'n gaeth yn eu cartrefi ac yn isel eu hysbryd.

Oherwydd y toriadau diweddar i drafnidiaeth gyhoeddus mae'r sefyllfa wedi gwaethygu.

Dywedodd Comisiynydd Pobl H欧n Cymru na ddylid anwybyddu'r angen am bwysigrwydd trafnidiaeth dda.

"Mae trafnidiaeth leol yn allweddol i ganiat谩u pobl oedrannus i allu ymweld 芒'r meddyg, mynd i'r ysbyty neu i siopa," meddai Sarah Rochira.

"Ond mae'n fwy na hynny hefyd.

"Mae'n caniat谩u i bobl fod yn rhan o'u cymuned, i ymweld 芒 theulu a ffrindiau, cymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol a'u hatal rhag bod yn unig ac yn isel eu hysbryd all gael effaith bellgyrhaeddol ar iechyd a lles pobl."

Gwell gwasanaeth

Cafodd 300 o bobl eu holi ar gyfer yr arolwg - amcangyfrifir fod 263,700 o bobl dros 75 oed yng Nghymru.

Roedd 7% yn teimlo'n gaeth i'w cartrefi am na allen nhw ddefnyddio'r car na thrafnidiaeth gyhoeddus.

Roedd 9% yn credu eu bod wedi colli eu hannibyniaeth a 4% yn dweud eu bod yn teimlo'n isel eu hysbryd am na allen nhw fynd allan.

Mae'r WRVS yn galw ar y rhai sy'n darparu trafnidiaeth i gynnig gwell cefnogaeth ar gyfer pobl h欧n sy'n defnyddio'u gwasanaethau ac am gynyddu cyllid ar gyfer trafnidiaeth gymunedol.

Caiff pobl dros 60 oed yng Nghymru deithio am ddim ar fysiau ond roedd 11% yn dweud nad oedden nhw'n defnyddio'r gwasanaeth am nad oedd yn addas i'w hanabledd.