麻豆官网首页入口

Disgwyl tywydd oer ond sefydlog

  • Cyhoeddwyd
Lluniau o'r Treuddyn ger Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yr olygfa yn Nhreuddyn, ger Yr Wyddgrug, dros y penwythnos

Gallai eira, sydd wedi achosi trafferthion mawr yn rhannau o ogledd ddwyrain a chanolbarth Cymru ddychwelyd erbyn penwythnos y Pasg, yn 么l arbenigwyr.

Fe allai hi fwrw eira yn ne'r DU ac mae'n debygol o barhau'n oer dros yr 诺yl.

Mae cyngor Sir y fflint yn dweud mai'r eira diweddar yw'r trymaf o fewn ffiniau'r awdurdod ers 30 mlynedd.

Gallai amodau effeithio ar gynlluniau i deithwyr am rai dyddiau eto wrth i'r gwaith o geisio clirio eira oddi ar y ffyrdd barhau.

'Heriol'

"Mae rhagolwg tywydd yr wythnos hon yn heriol," meddai llefarydd.

Roedd llawer o ganolfannau dydd ar gau, meddai, ond bod timau gwasanaethau cyndeithasol yn sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau.

Dywedodd nad oedd casglu gwastraff ac ailgylchu'n debygol o ailddechrau'r wythnos hon.

Wedi'r tywydd gaeafol dros y penwythnos mae'r tymheredd yn disgyn ac mae 'na rybudd y gallai rhew achosi trafferthion ar y ffyrdd nos Lun.

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gallai eira sy'n dadmer droi'n i芒 ar balmentydd a ffyrdd.

Oer iawn

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cyngor Sir y Fflint yn credu mai dyma'r eira tryma' i ddisgyn yn y sir ers 30 mlynedd

Mae rhagolygon am weddill dydd Llun yn addo tywydd sych ar y cyfan ond yn oer iawn gydag ambell gawod eira yn y dwyrain yn bennaf.

Does dim disgwyl i hynny newid am weddill yr wythnos.

Dywedodd gwirfoddolwyr y Groes Goch eu bod wedi helpu bron 200 i gyrraedd ysbytai yn y gogledd.

Cafodd llawdriniaethau yn Ysbyty Wrecsam Maelor eu canslo ond erbyn hyn maen nhw'n 么l i'r drefn arferol.

Nos Sul roedd mwyafrif ffyrdd y gogledd ar agor heblaw ychydig yn Sir Ddinbych.

Dywedodd y cyngor fod eu timau yn gweithio 24 awr er mwyn ceisio clirio'r gweddill.

Ddydd Llun roedd ambell i ffordd ar gau yng Ngwynedd, Powys a Sir Ddinbych, gan gynnwys yr A4086 ym Mhen-y-Pass, Bwlch yr Oernant a'r ffordd rhwng Llandegla a Chorwen.

Ail-agorodd yr A5 rhwng Corwen a Llangollen yn hwyr brynhawn Llun.

'Gyda'r oeraf'

Yn 么l Yvonne Evans, cyflwynydd tywydd Radio Cymru: "Mae'n fwy cyffredin iddi fwrw eira'r adeg hon o'r flwyddyn na'r Nadolig oherwydd bod y gwynt yn chwythu aer oer o'r dwyrain yn aml iawn ...

"Ac mae'n bosib mai mis Mawrth fydd gyda'r oeraf ers i gofnodion ddechre - ond cawn wybod yn swyddogol dros y dyddie nesa.

"Ma' tua dwy droedfedd o eira yn Llanarmon Dyffryn Clwyd a mwy yn lluwchio ar y mynyddoedd.

"Nos Lun fe fydd hi'n oer iawn a rhewllyd, bydd cyfnodau clir ac ambell bluen o eira a'r tymheredd ar ei isa' tua phum gradd dan y rhewbwynt.

"Ac mae'r Pasg yn debygol o fod yn sych ar y cyfan a'r gwynt yn ysgafnach ac fe wneith hi deimlo'n oer."

Mae arweinydd Cyngor Sir Ddinbych wedi rhoi teyrnged i staff y cyngor am eu hymdrechion diflino i ddelio gyda'r tywydd gaeafol.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans: "Mae timau wedi brwydro mewn tywydd garw i geisio cadw ffyrdd y sir ar agor.

"Mae hi bendant yn flynyddoedd maith ers i ni weld tywydd tebyg i hyn o'r blaen a chafodd nifer o gymunedau eu heffeithio dros y penwythnos, yn arbennig yn ne'r sir.

"Roedd y gwyntoedd cryfion wedi creu lluwchfeydd mawr ac roedd timau o staff y cyngor gyda chontractwyr lleol wedi gweithio'n ddiwyd i glirio'r ffyrdd.

"Rwy'n diolch o waelod calon iddyn nhw am eu hymdrechion."