麻豆官网首页入口

Hwb i ddarlithwyr ddysgu mewn dosbarth dwyieithog

  • Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf mae nifer o ddarlithwyr o ogledd Cymru wedi cwblhau modiwl MA mewn Methodoleg Addysgu Dwyieithog.

Mae'n gymhwyster unigryw ar gyfer cynllunio a chyflwyno addysg yn ddwieithog yn y dosbarth.

Darlithwyr addysg bellach yw'r rhai i gwblhau'r cwrs mewn cydweithrediad 芒 Chanolfan Sgiliaith yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, Pwllheli.

Mae'n darparu cefnogaeth ar ddwyieithrwydd a sgiliau cyfathrebu yn y Gymraeg a'r Saesneg i golegau addysg bellach.

Dywedodd pennaeth Sgiliaith, Angharad Mai Roberts, eu bod yn falch o fod yn gallu cyfrannu at uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu cyfleoedd pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg fel cyfrwng addysg a hyfforddiant.

"Rydym yn hynod falch bod y tiwtoriaid wedi cymhwyso'n llwyddiannus yn dilyn cyfarfod o Fwrdd Arholi Allanol Prifysgol Bangor fis Tachwedd diwethaf.

"Hoffem ddiolch i d卯m Sgiliaith am eu holl waith caled dros y flwyddyn."

Caiff hyn ei ariannu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth ag Ysgol Addysg Prifysgol Bangor.

Dywedodd Dr Gwyn Lewis, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu, Ysgol Addysg Prifysgol Bangor, bod cynrychiolydd o Lywodraeth Cymru wedi ymweld 芒'r brifysgol i achredu cwrs Hyfforddiant Addysgu Dwyieithog Sgiliaith fel modiwl 30-credyd yng nghwrs MA Addysg rhan-amser yn 么l yn 2011.

"Mae Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yn falch iawn o gael gweithio yn agos gyda Sgiliaith ar Fodiwl Methodoleg Addysgu Dwyieithog."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol