Methu targedau am y nawfed mis

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr ystadegau'n siomedig

Mae ystadegau Llywodraeth Cymru'n dangos bod ambiwlansys wedi methu targed ymateb i alwadau brys am y nawfed mis yn olynol.

Roedd manylion Chwefror yn dangos mai 60.8% o ymatebion i alwadau brys gyrhaeddodd o fewn wyth munud.

Targed Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw 65%.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr ystadegau'n siomedig o gofio bod y targed yn is nag ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig.

Gofynnwyd i'r ymddiriedolaeth am ymateb.

Gwella

Serch hynny, mae'r ymatebion i alwadau brys wedi gwella am yr ail fis yn olynol o 56.1% ym mis Rhagfyr a 59.6% ym mis Ionawr.

Yn 么l y ffigyrau diweddaraf, roedd nifer y galwadau brys wedi gostwng 1.2% i 32,500 ym mis Chwefror.

Roedd mwy na 13,000 o'r galwadau hyn yn rhai Categori A, galwadau sy'n ymwneud 芒 niwed sy'n gallu achosi marwolaeth.

Mae'r ffigyrau'n dangos mai dim ond pedwar awdurdod lleol - Caerdydd Dinbych, Wrecsam, a Chonwy - gyrhaeddodd darged o 65% ym mis Chwefror.

'Wynebu her'

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: "Mae'r ffigyrau hyn yn siomedig iawn gan ddangos fod ambiwlansys yn methu 芒 chyrraedd achosion brys yn ddigon cyflym.

"Mae'r ambiwlansys wedi methu'r targed ymateb i alwadau brys am y nawfed mis yn olynol er bod y targed o 65% yn gyson yn is na'r targedau sy'n cael eu gosod yn rhannau arall y DU.

"Mae'r Gweinidog Iechyd newydd yn wynebu her i fynd i'r afael 芒 phroblemau gwasanaeth yr etifeddodd oddi wrth ei ragflaenydd."

Galwodd Mr Millar am ddiweddglo cyflym ar arolwg o'r gwasanaeth ambiwlans.