Llywodraeth yn prynu Maes Awyr Caerdydd am 拢52m

Disgrifiad o'r fideo, Adroddiad Ellis Roberts

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn prynu Maes Awyr Caerdydd am 拢52 miliwn.

Ond nid y llywodraeth fydd yn rhedeg y maes awyr, yn 么l y Prif Weinidog Carwyn Jones.

Ym mis Rhagfyr dywedodd Mr Jones fod y llywodraeth "wedi dod i gytundeb" gyda TBI, perchnogion y maes awyr.

'Sail fasnachol'

Roedd y pryniant yn dibynnu ar "gwblhau ystyriaethau ariannol, cyfreithiol a sicrhau gwerth am arian".

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Jones fod sicrhau dyfodol y maes awyr yn hanfodol.

"Ni fydd y maes awyr yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru.

"Bydd enw'r prif weithredwr yn cael ei gyhoeddi maes o law ond yn y cyfamser mae Yr Arglwydd Rowe-Beddoe wedi cytuno i fod yn gadeirydd bwrdd y maes awyr."

Ychwanegodd Mr Jones y byddai'r maes awyr yn cael ei redeg "hyd fraich ar sail fasnachol".

'Gwladoli'

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R T Davies: "Dwi ddim yn siwr ai gwladoli fel yn y saithdegau yw'r ateb i'r holl broblemau."

Dywedodd AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Eluned Parrott, eu bod wedi clywed ychydig o sylwadau Mr Jones dros y misoedd diwethaf a'u bod bellach yn gwybod "y pris".

"Ond mae angen sylwedd, cynlluniau hir dymor y llywodraeth er mwyn denu cwmn茂au, ymwelwyr a busnes i'r maes awyr.

"Dwi'n dymuno'r gorau i'r llywodraeth yn eu hymgais i redeg y maes awyr a'i wella ond fe fyddwn i wedi gobeithio cael mwy o wybodaeth am y cynlluniau erbyn hyn."

Mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi dweud: "Mae'n gywir mewn egwyddor fod gan y llywodraeth ran yn ein hisadeiledd er mwyn sicrhau bod y maes awyr yn gweithredu er lles gorau'r economi.

'Manylion'

"Ond mae angen i ni weld y manylion."

Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins: "Er mwyn cystadlu ar y llwyfan ryngwladol mae angen isadeiledd o'r safon ucha' a rhan allweddol o hyn yw maes awyr rhyngwladol modern ac effeithiol.

"Mae angen maes awyr all hybu buddsoddi ac arwain at dwf economaidd.

"Yn y cyswllt hwn, mae angen arweiniad masnachol cadarn ac mae apwyntio'r Arglwydd Rowe-Beddoe yn gychwyn addawol."