Pryder am ddyfodol gwasanaethau Cymraeg NS&I

Disgrifiad o'r llun, Pryder yngl欧n 芒 dyfodol gwasanaethau Cymraeg NS&I

Mae 麻豆官网首页入口 Cymru yn deall y bydd un o gwmn茂au cynilo mwyaf Prydain yn rhoi'r gorau i gynnig gwasanaethau yn y Gymraeg cyn diwedd mis Ebrill.

Yn 么l Cynilion Cenedlaethol a Buddsoddiadau (NS&I), dim ond 107 o gwsmeriaid sydd yn cyfathrebu efo'r cwmni yn y Gymraeg - sef 0.007% o'r 1,549,577 o bobl sy'n gwsmeriaid yng Nghymru.

Mae'r cwmni yn amcangyfrif ei bod hi'n costio tua 拢900 y pen bob blwyddyn i ddarparu gwasanaethau Cymraeg i'w cwsmeriaid.

"Dydi gweithredu ein Cynllun Iaith Gymraeg ddim yn ddefnydd effeithiol o arian cyhoeddus"

Galwad

Ddydd Llun galwodd Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, ar Ysgrifennydd Cymru David Jones, i berswadio NS&I i barhau i gynnig gwasanaethau Cymraeg.

Mi dderbyniodd Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg lythyr gan y cwmni ym mis Chwefror i ddweud na fyddai'r gwasanaethau Cymraeg yn parhau ar 么l mis Ebrill.

Ysgrifennodd y Comisiynydd Meri Huws lythyr at Jane Platt, Prif Weithredwr NS&I, i egluro nad oes yna unrhyw gymal cyfreithiol i alluogi unrhyw un o gyrff y Goron i beidio gweithredu Cynllun Iaith unwaith ei fod wedi ei awdurdodi.

Cafodd copi o'r llythyr hwnnw ei anfon at Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, Ysgrifennydd Cymru David Jones a Leighton Andrews, y gweinidog sydd yn gyfrifol am yr iaith Gymraeg.

Mae NS&I wedi cadarnhau eu bwriad i roi'r gorau i weithredu'r cynllun iaith am resymau ariannol.

Dywedodd Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg:

"Hyd yn oed mewn cyfnod economaidd caled, mae'n anodd deall penderfyniad NS&I i droi eu cefnau ar ofynion Deddf yr Iaith. Mae'n fater o bryder bod y penderfyniad wedi ei wneud i gael gwared 芒 gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg yn gyfan gwbl. "