麻豆官网首页入口

Ffordd liniaru: 'Dim bwriad i godi toll'

  • Cyhoeddwyd
Traffig ger twneli Brynglas, Casnewydd, ar yr M4Ffynhonnell y llun, 麻豆官网首页入口 news grab
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd cynlluniau i ledu traffordd yr M4 eu cyhoeddi'n wreiddiol yn 2004

Mae ffynhonnell yn Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oes bwriad i godi toll os yw ffordd liniaru'n cael ei chodi i osgoi'r M4 ger Casnewydd.

Roedd adroddiadau'n awgrymu bod y Trysorlys wedi clustnodi arian ar gyfer y prosiect ac y gallai Llywodraeth Cymru ad-dalu'r benthyciad drwy godi tollau.

Ond mae ffynhonell ym Mae Caerdydd wedi dweud: "Dyw codi toll ddim wedi bod yn rhan o'r trafodaethau rhwng y ddwy lywodraeth.

"Does dim bwriad i gyflwyno toll ar unrhyw ffordd yng Nghymru.

"Yn wyneb y ffaith nad yw'r Albanwyr yn cael eu gorfodi i gyflwyno toll ar Bont Gweryd, fe fyddai'n annheg disgwyl i Gymru adennill arian yn y fath fodd."

拢3 biliwn

Mae papurau newydd y Times a'r Independent wedi dweud bod cynlluniau i gefnogi toll newydd fel rhan o adolygiad gwariant y llywodraeth ym mis Mehefin.

Yn ei gyllideb fis Mawrth roedd y Canghellor George Osborne wedi dweud ei fod yn awyddus i wario 拢3 biliwn ar gynlluniau isadeiledd er mwyn roi hwb i'r economi.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn 2004 cyn eu rhoi o'r neilltu yn 2009.

Dywedon nhw fis Mawrth eu bod yn "ystyried" sut i leddfu problemau traffig ar y draffordd o gwmpas Casnewydd.

Mae trafodaethau'n parhau rhwng llywodraethau'r DU a Chymru ar sut i ariannu gwelliannau i'r M4 yn ne Cymru.

Tollau

Yn y cyfamser, mae arweinwyr busnes wedi rhybuddio bod problemau traffig mawr yn yr ardal wedi niweidio economi de Cymru.

Mae Cymdeithas y Cyflogwyr, y CBI, wedi dweud bod adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4 ger Casnweydd yn "flaenoriaeth amlwg".

Dywedodd Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol CBI Cymru: "Mae'r M4 yn borth i Gymru ac yn chwarae rhan allweddol wrth ddenu buddsoddiad ar adeg anodd.

"Mae'r CBI wedi bod yn glir iawn - mae lledu'r M4 yn hanfodol ar gyfer at lwyddiant tymor hir Cymru ac rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r DU i geisio rhoi cynllun hyfyw ar waith."

'Yn parhau'

Yn 么l llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dydyn ni ddim yn gwneud sylw ar adroddiadau ond, fel y dywedwyd o'r blaen, rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i gael pwerau benthyca er mwyn codi'r cyllid ar gyfer buddsoddi mewn isadeiledd. Mae'r trafodaethau hynny'n parhau.

"Yn y cyfamser, rydym yn parhau i ystyried nifer fawr o ymatebion i'n hymgynghoriad ar welliannau i'r M4 rhwng Magwyr a Chas-bach."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol