Dim e-lyfrau ar declyn darllen

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Lolfa am weld mwy o lyfrau Cymraeg ar Kindle

Mae'r Lolfa wedi lansio deiseb ar y we yn galw ar Amazon "i ganiat谩u cyhoeddi e-lyfrau Cymraeg ar y Kindle".

Dywedodd y wasg y dylai'r cwmni "ychwanegu'r Gymraeg fel un o'r ieithoedd swyddogol ... yn yr un modd 芒'r Fasgeg, Galiseg a Chatalaneg".

Mae'r Gweinidog gyda chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, wedi gofyn i Amazon am esboniad am y diffyg darpariaeth.

Dyfais electroneg ar gyfer ddarllen e-lyfrau yw'r Kindle sy'n cael ei chynhyrchu gan y cwmni sy'n gwerthu cynnyrch ar y we.

Mewn ymateb dywedodd Amazon eu bod yn bwriadu ychwanegu mwy o ieithoedd at eu gwasanaeth.

"Mae Cymraeg yn un o'r ieithoedd hynny y byddwn ni'n gobeithio ei chefnogi yn y dyfodol."

Rheolwr gyfarwyddwr y Lolfa, Garmon Gruffudd, yw awdur y ddeiseb.

"Rydyn ni'n gobeithio bydd y ddeiseb yn profi iddyn nhw fod yna gefnogaeth i hyn ac y bydd modd cael y maen i'r wal yn fuan."

"Pryder"

Y llynedd fe lwyddodd Y Lolfa i roi 60 o lyfrau Cymraeg ar werth trwy Kindle.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod y gweinidog yn "annog y cwmni i gyhoeddi llyfrau Cymraeg ar y Kindle ac yn mynegi pryder nad hon yw'r sefyllfa ar hyn o bryd."

Yn y cyfamser, mae Ysgrifennydd Cymru, David Jones, wedi ymuno yn y ddadl. Wrth drydar gofynnodd am eglurhad y cwmni.

'Yn hwylus'

Dywedodd Elwyn Jones, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru: ''Mae'n hollbwysig bod darllenwyr llyfrau Cymraeg yn cael yr un cyfle 芒 phawb arall i ddod o hyd i ddeunydd darllen mewn print ac yn ddigidol a dyna pam y mae'r cyngor bellach yn cynnig e-lyfrau ochr yn ochr 芒 llyfrau print ar wefan Gwales.

"Rydym am i'r Gymraeg fod ar gael yn hwylus i bawb mewn siop neu ar y we.

"Fel rhan o'r ddarpariaeth honno rydym yn cefnogi ymgyrch y cyhoeddwyr ac ymdrechion Llywodraeth Cymru i gael Amazon i roi lle dyladwy i'r Gymraeg ochr yn ochr ag ieithoedd eraill."