麻豆官网首页入口

Lladd-dy yn cau ei ddrysau am y tro olaf

  • Cyhoeddwyd
Welsh Country Foods
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Diflannodd y gobaith o werthu safle'r Gaerwen

Bydd ffatri brosesu cig oedd yn cyflogi 350 o bobl ar Ynys M么n yn cau ei drysau am y tro olaf ddydd Gwener.

Methiant fu ymgais i ddod o hyd i brynwr newydd i safle Welsh Country Foods yn Y Gaerwen.

Dywedodd perchnogion y ffatri, cwmni Vion o'r Iseldiroedd, ym mis Tachwedd y llynedd eu bod yn symud y gwaith o nifer o safleoedd yn y DU i'r Almaen.

Roedd hynny'n ddechrau ar gyfnod ymgynghori ar gannoedd o swyddi mewn nifer o safleoedd yng Nghymru, ond ers hynny daeth cadarnhad bod Vion wedi gwerthu safleoedd yn Llangefni ar Ynys M么n, Sandycroft yn Sir y Fflint a Merthyr Tudful fel busnesau hyfyw.

Cwmni bwyd 2 Sisters o Birmingham sydd wedi prynu'r safleoedd ynghyd ag wyth safle arall.

Ym mis Mawrth, cyhoeddwyd bod cwmni arall 芒 diddordeb prynu safle'r Gaerwen gan gynnig gobaith y gellid achub 70 o swyddi ar y safle yno hefyd.

Ond ddydd Iau fe ddaeth cadarnhad na fu llwyddiant gyda'r cytundeb ac y byddai holl weithwyr y Gaerwen yn colli'u gwaith pan fydd y safle'n cau ddiwedd y mis yma.

'Parhau i chwilio'

Wrth siarad ar y Post Cynta' fore Gwener, dywedodd Aelod Cynulliad Plaid Cymru ar Ynys M么n, Ieuan Wyn Jones, y bydd yr ymdrechion i ddod o hyd i brynwr newydd i'r safle yn parhau.

"Da ni'n ymwybodol bod angen buddsoddiad eitha' sylweddol yn y safle - nid yn unig o safbwynt y safle ei hun, ond hefyd er mwyn ehangu'r ddarpariaeth sydd ar gael yno i drin gwartheg yn ogystal 芒 defaid," meddai.

"Er ei fod yn ddiwrnod du, dwi ddim yn credu ei fod o reidrwydd yn ddiwedd y daith. Gan fod hwn yn adnodd mor bwysig yn ehangach, mae'n rhaid i ni barhau i weithio i ddod o hyd i brynwr."

Wrth i'r safle yn Y Gaerwen gau ei ddrysau, mae'n golygu nad oes yna'r un lladd-dy yng ngogledd Cymru bellach, gyda ffermwyr y rhanbarth yn gorfod anfon 诺yn i Loegr i'w prosesu.

"Mae 'na angen lladd-dy yn y rhanbarth yma," meddai Mr Jones, "felly mae'n rhaid i ni ymladd i sicrhau bod o'n ailagor.

"'Da ni ddim yn meddwl bydd modd, yn y tymor byr beth bynnag, cael yr holl swyddi'n 么l. Ond yn sicr dwi'n credu mai'r flaenoriaeth bellach fydd ei agor fel lladd-dy."

Dywedodd swyddog undeb Unite dros Gymru, Paddy McNaught:

"Yn amlwg mae hwn yn ddiwrnod trist i'n haelodau yn Welsh Country Foods, Gaerwen, ac yn ddiwrnod trist i'r gymuned gyfan ar Ynys M么n.

"Rydym yn gwybod bod diddordeb busnes yn y safle yma ac roeddem yn hyderus bod modd dod o hyd i brynwr.

"Rydym yn siomedig iawn yn y modd y mae Vion UK wedi gadael i'r cyfle lithro i ffwrdd ynghyd 芒 channoedd o swyddi."