'Diffyg uchelgais' yn rhwystro myfyrwyr

Disgrifiad o'r llun, Mae nifer y disgyblion o Gymru sy'n mynd i Gaergrawnt neu Rydychen yn llai

Dylid rhoi mwy o bwysau ar ysgolion Cymru i geisio cael disgyblion i mewn i brifysgolion mwyaf Lloegr, yn 么l cyn Ysgrifennydd Cymru Paul Murphy.

Mae Mr Murphy, sy'n arwain tasglu sy'n ceisio cael mwy o ddisgyblion o Gymru i mewn i Gaergrawnt a Rhydychen, yn rhoi'r bai yn rhannol ar ddiffyg uchelgais athrawon.

Disgyn mae'r nifer o ddisgyblion o Gymru sy'n mynd i Gaergrawnt a Rhydychen.

Mae Aelod Seneddol Torfaen hefyd yn bryderus bod y Fagloriaeth Gymreig yn "rhwystr".

'Elitrwydd'

Dywedodd Mr Murphy, a gafodd ei benodi i'w r么l gan Lywodraeth Cymru fis diwethaf, ei fod yn credu bod llai o athrawon Cymru wedi bod i Gaergrawnt a Rhydychen o'i gymharu 芒 40 mlynedd yn 么l ac felly fod ganddynt lai o ddealltwriaeth o sut i gael disgyblion i mewn.

"Rwy'n si诺r bod llawer o bobl ifanc fyddai'n hoffi mynd yno ond sydd ddim yn gwybod sut i fynd o'i chwmpas hi," meddai.

"Mae'n fater o gael gwared 芒'r ofn o elitrwydd canfyddedig pan fyddan nhw'n mynd yno.

"Oni bai ein bod yn rhoi pwysau ar ysgolion a cholegau yng Nghymru i wneud hyn, yna fyddan nhw'n gwneud dim i wella'r sefyllfa."

'Angen uchelgais'

Ond dywedodd un pennaeth ysgol nad oedd am gael ei enwi wrth 麻豆官网首页入口 Cymru mai ychydig o gefnogaeth oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru i ysgolion oedd yn ceisio cael eu disgyblion i mewn i'r prifysgolion gorau.

"Rhaid i ni sicrhau bod ein disgyblion mwyaf galluog gyda'r sgiliau i gystadlu'n gyfartal," meddai.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn uchelgeisiol ar ran ein myfyrwyr sy'n ceisio mynd i'r prifysgolion gorau - boed hynny yng Nghaergrawnt, Rhydychen neu yn yr Unol Daleithiau - neu ddatblygu ein prifysgolion ein hunain."

Yn y cyfamser, mae ffigyrau ddaeth i law 麻豆官网首页入口 Cymru yn dangos bod nifer y disgyblion o ysgolion cyfun Cymru sy'n mynd i Gaergrawnt neu Rydychen wedi disgyn yn y pum mlynedd hyd at 2012.

Dywedodd Rhydychen a Chaergrawnt eu bod wedi bod yn gweithio'n galed i ddenu mwy o fyfyrwyr o Gymru, gyda'r ddwy brifysgol yn cynnal cynhadledd ar y cyd yn Abertawe fis diwethaf.

Y Fagloriaeth

Ond pwysleisiodd Mr Murphy fod myfyrwyr o gymoedd y de bum gwaith yn llai tebygol o wneud cais i fynd i Gaergrawnt neu Rydychen na myfyrwyr yn rhai o siroedd mwy llewyrchus Lloegr.

Dywedodd adroddiad ei swyddfa y llynedd fod nifer o heriau wrth geisio cynyddu'r nifer, gan gynnwys y Fagloriaeth Gymreig.

Yn wir, fe ddywedodd Cyfarwyddwr Mynediad Rhydychen y gallai fod yn anfantais i ddisgyblion o Gymru.

Fel arfer mae Rhydychen a Chaergrawnt yn disgwyl i ddarparfyfyrwyr fod wedi astudio tri phwnc lefel A ond mae llawer yng Nghymru sy'n astudio tuag at gymhwyster gorfodol y Fagloriaeth Gymreig ond yn astudio dau bwnc arall.

Dywedodd Dr Julia Paolitto o Brifysgol Rhydychen fod nifer o ffactorau eraill yn gyfrifol am y ffigyrau, gan gynnwys amharodrwydd rhai ysgolion i annog eu disgyblion i adael Cymru, yn enwedig ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Ond mae'r ddwy brifysgol wedi nodi bod canlyniadau arholiadau yn fwy o rwystr, y rhwystr mwyaf o bosib'.