Pryderon am welyau gofal dwys ysbyty

Disgrifiad o'r llun, Cafodd nifer y gwelyau ym Mronglais eu gostwng dros dro fis diwethaf fel rhan o gynllun ailwampio

Mae pryder y gallai Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth golli gwelyau yn yr uned gofal dwys a ward ganser.

Mae Aelod Seneddol Ceredigion Mark Williams yn dweud ei fod wedi clywed "adroddiad brawychus" y gallai hyd at 16 o welyau gael eu colli yn yr ysbyty.

Mae'r AS yn poeni y gallai nifer y gwelyau gofal dwys ddisgyn o 5 i 3 o gymharu 芒 17 yng Nghaerfyrddin, ac fe allai cleifion orfod teithio'n bellach i gael triniaeth.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn asesu nifer y gwelyau ysbyty yn gyson a pharhaus.

Mynnodd Mr Williams bod y cydbwysedd o wasanaethau ysbyty rhwng gogledd a de ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi'i "ogwyddo'n annerbyniol".

Dosbarthu adnoddau

Ychwanegodd bod Ysbyty Bronglais wedi gweld "gostyngiad cyson" yn niferoedd y gwelyau yno dros gyfnod o flynyddoedd.

"Mae'n codi cwestiwn am y modd y mae adnoddau'n cael eu dosbarthu ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda," meddai.

"Dylai gwasanaethau craidd gael eu darparu yn ddigonol ar draws yr ardal, ond mae'r cydbwysedd wedi ei ogwyddo'n annerbyniol rhwng gogledd a de'r ardal."

Wrth ymateb dywedodd cyfarwyddwr sir y bwrdd iechyd, Jeremy Brown, bod y bwrdd - fel darparwr cyfrifol i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol - yn asesu gwelyau a lefelau staffio yn eu hysbytai yn barhaus.

"Mae trafodaethau'n digwydd ar hyn o bryd yn dilyn adolygiad ym Mronglais oedd yn edrych ar y math o gleifion yr ydym yn eu gweld yno, nifer y nyrsys sydd angen i bob claf a chynaliadwyedd," meddai.

"Fel rhan o hynny, rydym yn ystyried dyfodol ein gwelyau gofal dwys. Ar hyn o bryd mae gennym gyllid i dri gwely gofal dwys ym Mronglais gyda'r gallu i agor dau wely arall pan fydd angen.

"Er bod y ddau wely yma wedi cael eu defnyddio o bryd i'w gilydd yn y gorffennol, yr hyn sy'n digwydd yn aml yw nad yw'r cleifion yn y gwelyau yna angen gofal dwys.

"Dydyn ni ddim yn tynnu gwasanaethau o Ysbyty Bronglais, ond yn gweithi'n galed i sicrhau bod adnoddau yn y lle iawn i gwrdd ag anghenion y claf."

Fis diwethaf roedd yna ostyngiad dros dro yn nifer y gwelyau ym Mronglais fel rhan o gynllun ailwampio.

Mae ward Rheidol, oedd 芒 15 o welyau, yn mynd gydag uned glinigol 10 gwely yn cymryd ei le fel rhan o uned ddamweiniau newydd. Mae disgwyl i nifer y gwelyau gynyddu o 14 y flwyddyn nesaf.