200 yn dod i drafod dyfodol ysbyty

Disgrifiad o'r llun, Dyma'r ail gyfarfod o'i fath i drafod dyfodol Ysbyty Gelli-nudd ym Mhontardawe

Daeth bron i 200 o bobl i gyfarfod cyhoeddus er mwyn trafod dyfodol Ysbyty Gelli-nudd ym Mhontardawe nos Lun.

Mae'r ysbyty, sydd 芒 30 o welyau, yn cael ei ddefnyddio gan bobl oedrannus sydd yn gwella ar 么l triniaethau meddygol.

Yn 么l Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg, byddai cau'r ysbyty yn arbed dros 拢300,000.

Fe fyddai hefyd yn golygu y byddai modd cyflogi mwy o weithwyr iechyd yn y gymuned.

Byddai cleifion yn cael eu symud i ysbytai eraill yn yr ardal a byddai gofal yn cael ei gynnig o bobl yn eu cartrefi.

Dywedodd dogfen ymgynghori'r bwrdd iechyd lleol: "Byddai cau Gelli-nudd yn rhyddhau tua 拢340,000 i'w ailfuddsoddi mewn staff ychwanegol i weithio yn y gymuned, i adlewyrchu'r ystod o gleifion sy'n defnyddio Gelli-nudd ar hyn o bryd.

Disgrifiad o'r sainOwain Evans yn holi un o'r gwrthwynebwyr i'r cynllun

"Byddai'r rhain yn cynnwys nyrsio, ffisiotherapi, staff therapi galwedigaethol a gweithwyr cynnal gofal iechyd.

"Fe fydden nhw'n cryfhau'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig yn yr ardal, gan helpu pobl i fyw mor annibynnol 芒 phosib yn eu cymunedau."

Gwrthwynebiad

Ond mae yna wrthwynebiad cryf i'r cynlluniau yn lleol.

Dywedodd Hilary Thomas, o Gyfeillion Ysbyty Gelli-nudd, ar y Post Cyntaf ddydd Mawrth:

"Mae'n well dod 芒 nhw i Ysbyty Gelli-nudd lle maen nhw'n cael y gofal a'r hyder a'r cariad. Mwy a mwy o henoed sydd yn mynd i ddod felly mwy a mwy o ofal fydd eisiau arnyn nhw.

"S'dim digon o nyrsys i ymwneud 芒 phob un ohonyn nhw'n eu tai na'r offer chwaith."

Pwysleisio'r ffaith bod yr ysbyty yn y gymuned mae'r cynghorydd Alun Llywelyn:

"R么l hanfodol Gelli-nudd yw helpu gwellhad y cleifion er mwyn eu hybu nhw i ddychwelyd adref.

"Felly mae cysylltiadau lleol o ran pobl sydd yn gallu ymweld 芒 nhw, o ran staff maen nhw yn adnabod wrth eu henwau- mae hynny yn bwysig."

Roedd y cyfarfod cyhoeddus, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gelfyddydau Pontardawe nos Lun, yn dod wedi cyfarfod tebyg yr wythnos ddiwetha' yng Nghanolfan Ddinesig Castell-nedd.