麻豆官网首页入口

Mark Drakeford i 'leihau'r pwysau' ar adrannau brys

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlansys yn disgwyl y tu allan i Ysbyty Maelor Wrecsam yn ddiweddarFfynhonnell y llun, Sarah Easedale
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 o oriau yn disgwyl y tu allan i ysbytai Cymru dros gyfnod o chwe mis

Mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi nifer o gynlluniau er mwyn ceisio lleihau'r pwysau ar adrannau brys ysbytai Cymru.

Ddydd Mawrth dywedodd Mark Drakeford fod nifer o welyau mewn ysbytai yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd gan bobl nad oes angen triniaeth arnynt.

Yn 么l Mr Drakeford mae angen cyflymu'r broses er mwyn sicrhau bod pobl yn gadael yr ysbyty pan maen nhw'n ddigon iach i wneud hynny er mwyn sicrhau bod digon o welyau ar gael.

Cyhoeddodd Mr Drakeford y mesurau i leddfu'r pwysau ar ysbytai yn dilyn cynnydd yn y galw am wasanaethau brys yng Nghymru.

Mae meddygon ymgynghorol adrannau damweiniau ac achosion brys wedi rhybuddio fod eu hadrannau "ar eu gliniau" oherwydd diffyg gwelyau ac am fod gormod o gleifion yn gorfod cael eu trin.

Trosglwyddo

Mewn datganiad ar gyfer ACau, dywedodd Mr Drakeford fod problemau mewn ysbytai yn cael eu gwneud yn waeth pan fod gwelyau yn cael eu defnyddio gan bobl oedd yn barod i gael eu rhyddhau o'r ysbyty.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai'n newid y polisi sy'n ymwneud ag achosion pan nad yw adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd yn gallu cytuno ynghylch pwy sy'n gyfrifol am dalu am ofal y claf.

Ychwanegodd y dylai'r cleifion hyn gael eu trosglwyddo i "leoliad addas sydd ddim mewn ysbyty".

"Ddylen nhw ddim, ac ni fyddan nhw yn aros yn yr ysbyty tan fydd y broblem ariannol yn cael ei datrys," meddai Mr Drakeford.

"Wrth gwrs mae'n rhaid i unrhyw un gael yr hawl i gael at y trefniadau gofal tymor hir gorau iddyn nhw.

"Ond nid yw hynny'n gyfystyr a chael yr hawl i ddefnyddio gwely aciwt tra bod y gofal hynny'n cael ei drefnu.

Clywodd ACau fod cleifion yn defnyddio 275 o welyau aciwt yng Nghymru a bod 57 o'r cleifion hynny yn aros am le mewn cartref gofal a bod 20 ohonynt yn aros i anghydfodau ariannol ynghylch eu gofal yn cael eu datrys.

Addewidion

Mae ambiwlansys wedi treulio bron 55,000 o oriau yn disgwyl y tu allan i ysbytai Cymru dros gyfnod o chwe mis, yn 么l ffigyrau ddaeth i law 麻豆官网首页入口 Cymru yr wythnos diwethaf.

Mae criwiau felly wedi treulio 2269 diwrnod - dros chwe blynedd - yn disgwyl i drosglwyddo cleifion i adrannau brys ysbytai Cymru.

Mae Mr Drakeford wedi addo:-

  • Cynlluniau ar y cyd rhwng byrddau iechyd a'r gwasanaeth ambiwlans i leihau amseroedd aros ambiwlansys y tu allan i ysbytai. Yn 么l Mr Drakeford bydd yn rhaid i hyn ddigwydd yn awr;

  • Mae gan fyrddau iechyd chwe wythnos i greu cynlluniau i wella gofal heb ei drefnu nad yw'n ymwneud ag ysbytai, fel gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau;

  • Bydd yn rhaid i'r gwasanaeth iechyd a chynghorau gyflymu asesiadau o'r gofal sydd ei hangen ar bobl;

  • Mae cadeirydd Bwrdd Iechyd Cwm Taf, Dr Chris Jones, wedi ei benodi i gynghori'r Gweinidog a gweithredu gyda'i awdurdod;

  • Bydd cynlluniau i gyflwyno gwasanaeth ff么n 111 ar gyfer galwadau heb ei drefnu nad ydynt yn rhai brys yn cael eu cyflymu. Daw'r penderfyniad hwn yn sgil canfyddiadau astudiaethau fod gormod o bobl yn mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn ddiangen;

  • Trafodaeth "genedlaethol" ynghylch y ffordd orau i'r gwasanaethau gofal ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n heneiddio.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol