Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Comisiynydd yn beirniadu bil
Mae'r Comisiynydd Plant wedi beirniadu deddfwriaeth gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru gan ddweud y gallai fynd yn groes i'r hyn sydd orau i blant.
Nod y bil yw gwneud bywyd yn haws i'r rhai sydd angen gofal a chymorth cymdeithasol a'u gofalwyr.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod angen deddf fel hon am fod y ddeddfwriaeth bresennol ddim yn ddigon cryf i gefnogi poblogaeth sydd yn byw yn hirach.
Yn 么l y dirprwy weinidog Gwenda Thomas sydd yn gyfrifol am y portffolio yma bwriad y bil yw gweddnewid y gwasanaethau cymdeithasol, 'nid am y blynyddoedd nesaf ond y degawdau nesaf.'
Beirniadu'r ddeddf
Ond mae Keith Towler yn dweud bod y ddeddf yn mynd yn groes i gytundeb rhyngwladol sef Confensiwn y cenhedloedd unedig ar hawliau plant.
Wrth osod yr un safonau a chynnig yr un gwasanaethau i blant ac oedolion mae hyn, meddai'r Comisiynydd, yn torri un o egwyddorion y Confensiwn.
Dyw Llywodraeth Cymru ddim yn cytuno gyda safbwynt Mr Towler.
Plant yn bwysig
Yn 么l Gwenda Thomas dyw'r Comisiynydd Plant ddim wedi deall natur a bwriad y bil:
"Mae hwn yn fil fydd yn sicrhau y bydd y gofal neu'r gefnogaeth y bydd plant a phobl ifanc yn derbyn yn well am ei fod yn annog gweithwyr cymdeithasol i edrych ar y teulu mewn modd holistig.
Allith plant ddim cael eu hystyried ar wah芒n i'w teuluoedd a'r cymunedau y maent yn perthyn iddo ac mae'r bil hwn yn gwneud llawer i gryfhau'r amcan yma."
Mi fydd Keith Towler yn mynegi ei bryderon i Bwyllgor o Aelodau'r Cynulliad bore ddydd Iau.