麻豆官网首页入口

999: 'Angen newidiadau mawr'

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adolygiad: Yn galw am ailwampio targedau perfformiad

Mae adolygiad wedi argymell "newidiadau mawr" o ran sut mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cael ei reoli a'i ariannu.

Mae'r adolygiad wedi galw am fwy o hyfforddi fel bod modd i barafeddygon wneud penderfyniadau am ofal claf ac wedi galw am ailwampio targedau perfformiad yn wyneb pryderon am ysbryd staff.

Yr Athro Siobhan McClelland sy' wedi paratoi'r adroddiad yr oedd y cyn Weinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi ei gomisiynu llynedd.

"Mae angen gweledigaeth glir," meddai'r adolygiad.

'Gwahanu'

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn trosglwyddo cleifion sy' angen gofal brys a rhai sy' angen triniaeth arferol.

Dywedodd yr adolygiad bod angen "gwahanu'r ddwy elfen" ac y dylai byrddau iechyd lleol ofalu am driniaethau arferol.

"Mae 'na broblem sylfaenol yn ymwneud 芒 threfniadau atebolrwydd a llywodraethiant y gwasanaeth," meddai'r adolygiad.

Dywedodd fod y trefniadau hynny'n "gymhleth".

Tri model

Mae'r adolygiad yn cynnig tri model.

Yr un cynta' yw rhedeg y gwasnaeth ambiwlans fel bwrdd iechyd a threfnu y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ariannu'n uniongyrchol.

Yr ail fyddai "gwasanaethau'n cael eu comisiynu'n uniongyrchol gan fyrddau iechyd ond gydag amcanion a gweithdrefnau cliriach".

Y trydydd fyddai chwalu'r gwasanaeth drwy Gymru i gyd a sicrhau bod pob bwrdd iechyd yn gyfrifol am ei wasanaeth ambiwlans ei hun.

"Mae manteision ac anfanteision i bob opsiwn," meddai'r adolygiad, "ond gallai'r trydydd arwain at broblemau cyfreithiol ..."

Yn 么l yr adolygiad, roedd staff yn poeni am y pwyslais ar dargedau perfformiad.

O dan y targedau, rhaid i ambiwlansys gyrraedd 65% o alwadau Adran A o fewn wyth munud.

Dyw'r gwasanaeth ddim wedi cwrdd 芒'r targedau ers 10 mis yn olynol.

53.3%

Roedd manylion ar gyfer Mawrth yn dangos bod 53.3% o alwadau Adran A wedi cyrraedd o fewn wyth munud.

Dywedodd staff eu bod yn poeni am eu bod yn cael eu canmol am gwrdd 芒 tharged er gwaetha'r ffaith fod claf yn marw.

"Prin yw'r dystiolaeth glinigol o blaid y targed wyth munud," meddai'r adolygiad.

Mae'r adolygiad wedi tynnu sylw at bryderon am ysbryd staff sy' wedi honni bod "diwylliant o ofn" ac "ychydig neu ddim cefnogaeth oddi wrth reolwyr".

Dywedodd Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Ambiwlans na fydden nhw'n gwneud sylw nes y byddai dadl yn y Cynulliad yr wythnos nesa'.