麻豆官网首页入口

Gwario 拢76.5m ar brosiectau

  • Cyhoeddwyd
Jane Hutt
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd y cyhoeddiad yn Siambr y Cynulliad

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd miliynau'n cael eu gwario ar brosiectau yng Nghymru.

Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt y byddai 拢76.5m yn "cefnogi tua 1,400 o swyddi a hybu twf economaidd".

Y buddsoddiad mwyaf fydd 拢30m ar geisio cynyddu'r cyflenwad o dai - bydd yr arian yn cael ei wario ar grantiau tai cymdeithasol.

Bydd y grant yn helpu pobl sydd wedi cael llai o fudd-dal tai yn sgil newid y system fudd-dal yn Ebrill.

'Gorsaf drenau'

Hefyd yn derbyn arian bydd Gorsaf Reilffordd Glyn Ebwy.

Cyhoeddodd Trenau Arriva Cymru y byddai'r gwasanaeth rhwng Glyn Ebwy a Chaerdydd yn cael ei estyn ym mis Mawrth, gan arwain at ddyblu'r nifer o bobl a allai ei ddefnyddio.

Ar y pryd dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Arriva Ian Bullock fod "cynnydd o 31% yn nifer y teithiau ers i'r llinell ailagor.

"Ry'n ni'n disgwyl i'r tyfiant hwn gynyddu wrth i wasanaethau tr锚n gefnogi datblygiad cynaliadwy'r cymunedau pwysig hyn."

Bydd yr arian yn cael ei wario ar adeiladu gorsaf un-blatfform newydd ar safle'r Gweithfeydd, adeiladu rhan newydd o'r trac o Orsaf Reilffordd Parcffordd Glyn Ebwy i'r orsaf newydd a pharatoi'r estyniad yn barod ar gyfer trydaneiddio.

Yn 么l Llywodraeth Cymru mae 300,000 siwrnai eisoes yn cael eu gwneud ar hyd y ffordd bob blwyddyn.

'Mwy o wybodaeth'

Wrth ymateb i gyhoeddiad y gweinidog ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, Paul davies, y byddai "Llywodraeth Cymru yn elwa ar benderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi 拢161m o arian ychwanegol iddyn nhw fel rhan o'r gyllideb."

Ond fe ofynnodd am fwy o fanylion sut y byddai'r arian ar y prosiectau tai ac addysg yn cael ei wario.

Croesawodd llefarwyr ar ran Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, Jocelyn Davies a Peter Black, y cyhoeddiad er roedd y ddau eisiau mwy o fanylion am y gwariant.