Deg i golli eu swyddi gydag Antena

Ffynhonnell y llun, Antena

Disgrifiad o'r llun, Mae cwmni Antena'n cyflogi 26 ar hyn o bryd

Mae cwmni Antena wedi cyhoeddi y bydd deg swydd yn cael eu torri oherwydd diffyg gwaith gan S4C.

Dywedodd sefydlydd y cwmni Iestyn Garlick wrth raglen y Post Cyntaf bod y swyddi'n gorfod mynd oherwydd bod S4C ond eisiau 30 pennod o 'Y Lle' y flwyddyn nesaf yn hytrach na'r 52 arferol.

Mae Antena'n cyflogi 26 aelod o staff yng Nghaernarfon ar hyn o bryd.

Dywedodd Mr Garlick "na fyddai'n briodol ar hyn o bryd" i roi manylion yngl欧n 芒 diswyddiadau gorfodol.

Yn siarad am y penderfyniad, dywedodd cyfarwyddwr cynnwys S4C, Dafydd Rhys: "Er bod lefelau staffio yn fater i Antena fel cwmni annibynnol, mae S4C yn cydymdeimlo 芒'r unigolion fydd yn colli eu swyddi o ganlyniad i'w cyhoeddiad.

"Mae pwysau ariannol y blynyddoedd diwethaf yn sgil toriadau sylweddol i gyllideb S4C yn effeithio ar gwmn茂au cynhyrchu drwy Gymru a'u lefelau staffio.

"Er hynny, eleni mae S4C wedi llwyddo i warchod rhaglenni ar y sgrin gan gynnwys gwariant ar gynyrchiadau gan gwmn茂au yn y gogledd."