麻豆官网首页入口

Budd-dal tai: sylwadau o dan y lach

  • Cyhoeddwyd
TaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r gweinidog wedi rhoi tystiolaeth o flaen y Pwyllgor Materion Cymreig

Fe all plant sydd yn cael eu heffeithio gan newidiadau i fudd-dal tai gysgu ar wely soffa pan maen nhw'n ymweld 芒 rhiant sydd ddim yn byw gyda nhw, meddai'r Gweinidog Lles wrth y Pwyllgor Materion Cymreig.

Os oes gan deuluoedd fwy o ystafelloedd na'r hyn mae'r llywodraeth yn dweud sydd angen arnyn nhw, meddai'r Arglwydd Freud, gallan nhw "ennill mwy o arian" er mwyn talu'r gwahaniaeth.

Mae Aelodau Seneddol Llafur wedi dweud bod y sylwadau'n rhai sarhaus.

Torri

Ers mis Ebrill mae Llywodraeth San Steffan wedi torri ar y budd-dal sydd yn cael ei roi i bobl gydag ystafell "sb芒r" yn eu tai.

Yr amcangyfri' yw bod y newidiadau yn golygu bod tua 40,000 o gartrefi yn colli 拢11 yr wythnos yng Nghymru.

Yn ystod y sesiwn ddydd Mawrth fe ofynnodd cadeirydd y pwyllgor, yr AS David Davies, a fyddai plant sy'n ymweld 芒 rhiant ar benwythnos yn medru cysgu ar wely soffa.

Ei ateb oedd: "Fe fydd rhai pobl yn teimlo ei bod yn werth talu 拢12 yn ychwanegol bob wythnos er mwyn medru cael y cyfleuster yna (ystafell wely ychwanegol).

"Fe fydd eraill yn defnyddio gwely soffa."

'Drud iawn'

Ychwanegodd fod ystafell wely i blentyn mewn dau le yn "beth drud iawn i'r wladwriaeth ei wneud ac ar y foment allwn ni ddim fforddio gwneud hynny".

Dywedodd ei fod yn pryderu am y berthynas rhwng plant a'u tadau pan mae'r rheini wedi gwahanu a bod y gost ar gyfer cymdeithas pan mae teulu yn chwalu yn anferth.

"Y cwestiwn yw faint o'r gost yna y gall y wladwriaeth ei ysgwyddo?"

'Allan i weithio'

Gofynnwyd cwestiwn iddo ynghylch teuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd aros yn eu cartrefi ond ddim eisiau symud i d欧 llai.

Os nad oedden nhw eisiau lletywr ychwanegol i gysgu yn yr ystafell sb芒r, meddai, fe allen nhw "fynd allan i weithio".

Mae'r Aelod Seneddol Llafur Stephen Doughty wedi beirniadu sylwadau'r Arglwydd Freud:

"Mi fydd nifer o deuluoedd sydd yn gweithio yn galed ac yn eu chael hi yn anodd cael dau ben llinyn ynghyd yn ffeindio ei sylwadau y dylen nhw 'fynd allan ac ennill arian' yn rhai sarhaus iawn - yn enwedig pan mae nifer ohonyn nhw yn eu cael hi yn anodd ffeindio gwaith yn sgil stad yr economi.

"Ac mae ei sylwadau y dylai rhieni sydd wedi gwahanu roi gwely soffa i'w plant yn rhai sydd y tu hwnt i grediniaeth. Mae rhan fwyaf o rheini eisiau yw plant deimlo'r un mor gartrefol gyda nhw ac y maen nhw yn teimlo gyda'u cyn partneriaid."

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud bod y newidiadau yn gwneud y system yn fwy teg.

Maen nhw hefyd wedi dweud na fydd llawer o deuluoedd yn cael eu heffeithio gan y toriad yn y budd-dal a bod miloedd yng Nghymru ar restrau aros neu yn byw mewn tai sydd wedi eu gorlenwi.