Addysg: Cyngor yn anfoddhaol o hyd

Disgrifiad o'r llun, Bu gwasanaethau addysg Blaenau Gwent o dan fesurau arbennig ers dwy flynedd

Mae adroddiad gan Estyn i wasanaethau addysg Cyngor Blaenau Gwent wedi dweud eu bod yn anfoddhaol, a hefyd yn dweud nad yw'r gallu i wella yn ddigon da.

Cyhoeddodd y corff arolygu ysgolion yng Nghymru yr

Cafodd gwasanaethau addysg y sir eu rhoi o dan fesurau arbennig ym Mai 2011 yn dilyn adroddiad damniol blaenorol, ac yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe gafodd pedwar comisiynydd eu penodi gan y gweinidog addysg i oruchwylio addysg o fewn yr awdurdod.

Fodd bynnag erbyn i'r arfarniad diweddaraf gael ei wneud eleni, dim ond un o'r pedwar comisiynydd oedd yn dal yn gweithio gyda'r awdurdod.

Methu meini prawf

Mae arfarniadau fel hyn yn defnyddio graddfa bedwar pwynt wrth bwyso a mesur y gwasanaethau :- Rhagorol, Da, Digonol ac Anfoddhaol.

Yn y deuddeg categori a gafodd eu barnu gan Estyn ym Mlaenau Gwent, roedd 8 yn 'anfoddhaol' a 4 yn 'ddigonol'.

Ymhlith y categor茂au oedd yn 'anfoddhaol' roedd :

Gallu i wella;

Safonau;

Cymorth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol;

Hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a lles;

Arweinyddiaeth;

Rheoli adnoddau;

Barn gyffredinol.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad yw Blaenau Gwent wedi cyrraedd meini prawf Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gymhwysedd am brydau bwyd rhad ac am ddim ers tair blynedd.

Fe welwyd cynnydd hefyd yn nifer y disgyblion sydd wedi eu hatal o ysgolion am gyfnodau penodol, ac mae nifer y dyddiau sy'n cael eu colli oherwydd ataliadau hefyd wedi codi.

Mae'r adroddiad yn gosod nifer o argymhellion, sy'n cynnwys "codi safonau ymhob cyfnod allweddol, yn enwedig ar ddiwedd cyfnod allweddol 4".

Un arall yw y dylai'r awdurdod greu systemau cynllunio busnes a rheoli perfformiad er mwyn dwyn swyddogion i gyfrif.

Fe fydd gan yr awdurdod nawr 50 diwrnod gwaith i lunio cynllun gweithredu i ddangos sut y bydd yn mynd i'r afael ag argymhellion, ond mae Estyn o'r farn "y dylai'r awdurdod aros yn y categori gweithgarwch dilynol o fod angen mesurau arbennig a byddant yn rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am y penderfyniad hwn".

'Gwelliannau'

Wrth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cyngor Blaenau Gwent mewn datganiad:

"Er bod barn yr adroddiad ar y cyfan yn anfoddhaol, rhaid cydnabod mai ychydig o amser a gafodd y cyngor ers i'r awdurdod gael ei roi o dan fesurau arbennig ym Medi 2011 i gyflawni gwelliant mewn sawl maes.

"Mae gwelliannau wedi digwydd. O ganlyniad i waith gan y Cyngor gyda Gwasanaeth Cyrhaeddiad Addysgol De-Ddwyrain Cymru (EAS), mae gan y cyngor bellach wybodaeth fwy manwl am berfformiad ysgolion, ac maen nhw'n dechrau defnyddio'r data yn fwy trefnus.

"Mae canran dysgwyr sy'n aros mewn addysg llawn amser ar 么l 16 oed wedi cynyddu. Yn ogystal mae nifer y dysgwyr sydd ddim mewn addysg llawn amser, hyfforddiant na gwaith (NEET) wedi gostwng yn sylweddol, ac ar raddfa gyflymach na'r cyfartaledd i Gymru gyfan."

Dywedodd Cyfarwyddwr Addysg Blaenau Gwent James Harris: "Mae pawb sy'n rhan o ddarparu addysg ym Mlaenau Gwent yn ganolog ac mewn ysgolion yn cydnabod yr angen am welliant brys a sylweddol mewn perfformiad.

"Mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda EAS i gefnogi ysgolion fel y gall cyrhaeddiad a chyflawniad disgyblion gynyddu.

"Mae'r her yn sylweddol ond mae arwyddion clir bod gwelliant yn digwydd, ac mae gwella perfformiad addysgol yn parhau yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor."

'Sialensiau arwyddocaol'

Ar raglen Good Morning Wales bore Iau mae'r gweinidog addysg wedi dweud bod yna 'sialensiau arwyddocaol' yn wynebu Blaenau Gwent.

Dywedodd ei bod hi yn cymryd amser i weld effaith y cymorth sydd wedi ei rhoi i'r cyngor ond bod yna welliannau positif wedi eu gwneud.

Pwysleisiodd Leighton Andrews mae adroddiad oedd hwn ynghylch y gwasanaethau addysg yn y sir ac nid adroddiad am ysgolion unigol. Tra bod heriau gan rhai ysgolion i'w goresgyn mae eraill wedi gwneud cynnydd sylweddol meddai.

Bydd y gweinidog yn cyfarfod gyda'r comisiynydd sydd 芒 chyfrifoldeb am wasanaethau addysg yn y cyngor ddydd Llun i drafod yr adroddiad.