麻豆官网首页入口

Disgwyl cyhoeddi cynlluniau iechyd y de

  • Cyhoeddwyd
Gwely ysbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae disgwyl i nifer yr adrannau gofal brys a damweiniau gael eu cwtogi mewn ysbytai yn y de

Bydd cynlluniau ar gyfer ad-drefnu gofal arbenigol mewn ysbytai yn y de yn cael eu cyhoeddi'n hwyrach heddiw.

Y disgwyl yw bydd y cynlluniau yn arwain at gwtogi nifer yr adrannau gofal brys a damweiniau.

Mae'r cynlluniau wedi eu llunio oherwydd bod arbenigwyr yn pryderu bod dim modd parhau i gynnig y gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd mewn modd diogel.

Ond mae'r gwrthbleidiau gwleidyddol wedi dweud eu bod yn gwrthwynebu'r newidiadau posib.

Ers dechrau 2012 mae pum bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i lunio cynlluniau sydd yn ymwneud ag ysbytai rhwng Abertawe a Chasnewydd.

Maent wedi bod yn dadlau bod angen canoli rhai gwasanaethau mewn pedair neu pum ysbyty ar draws y de.

Y gred yw y bydd y newidiadau hefyd yn galluogi'r byrddau iechyd i baratoi at y dyfodol ac i fynd i'r afael a phroblemau fel diffyg doctoriaid, poblogaeth sy'n heneiddio a gwasgedd ariannol.

Bydd y cynlluniau'n canolbwyntio ar y gwasanaethau canlynol:

Gofal mamolaeth ymgynghorol (obstetreg);

Gofal arbenigol ar gyfer babanod (newydd genedigol);

Gofal arbenigol ar gyfer plant (pediatreg);

Meddygaeth brys (damweiniau ac achosion brys).

Mae wyth ysbyty yn yr ardal yn darparu'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i'r nifer yma gael ei leihau.

Dywedodd Dr Grant Robinson, cyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan: "Ni allwn barhau i ddarparu'r holl wasanaethau hyn ym mhob lleoliad ar draws de Cymru. Mae angen i ni grynhoi'r gwasanaethau er mwyn sicrhau bod pob claf yn cael gofal diogel a chynaliadwy.

"Mae ein clinigwyr yn credu mai'r ffordd orau o wneud hyn, wrth wella safon y gofal mae cleifion yn ei dderbyn a'i wneud yn fwy diogel, yw canolbwyntio'r gwasanaethau clinigol hyn mewn llai o ysbytai - mewn naill ai pedwar neu pum safle."

P'run a'i pedair neu pum safle fydd y penderfyniad, y rhai fydd yn sicr yn rhan o'r cynllun fydd: Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Treforys ger Abertawe ac un ysbyty newydd fydd yn cael ei hadeiladu yn Llanfrechfa ger Cwmbr芒n.

Bydd pedwerydd safle, ac efallai pumed, uned yn cael ei dewis o blith: Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant.

Mae'r cynlluniau hefyd yn debygol o argymell sefydlu canolfan drawma arbenigol ar gyfer yr achosion brys mwyaf difrifol - er enghraifft damweiniau lle mae'r ambiwlans awyr yn cael ei galw allan.

Gall y ganolfan hon gael ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn unig, neu ar y cyd gydag Ysbyty Treforys Abertawe.

Wedi'r datganiad bydd y cyhoedd yn cael cyfle i ddweud eu barn am y cynlluniau fel rhan o ymgynghoriad.

Mae penaethiaid y pum bwrdd iechyd wedi rhyddhau datganiad ar y cyd er mwyn sicrhau pobl eu bod nhw'n barod i wrando ar eu barn.

"Mae'r syniadau ar gyfer dyfodol y gwasanaethau hyn wedi cael eu datblygu gyda chlinigwyr rheng flaen - meddygon, nyrsys, bydwragedd, therapyddion a pharafeddygon. Cafodd chwe phosibiliad ar gyfer lleoliadau eu rhannu 芒'r cyhoedd yn ystod cyfnod ymgysylltu 12-wythnos y llynedd.

"Fe wnaethom gynnal yr ymgysylltiad hwn oherwydd ein bod yn awyddus i glywed barn y cyhoedd yn gynnar yn y broses - dywedodd mwyafrif clir eu bod yn deall pam bod angen newid gwasanaethau ac roeddent yn cefnogi'r syniadau.

"Mae'r holl fyrddau iechyd wedi cytuno i fwrw ymlaen gydag ymgynghoriad a bydd y broses yn un lawn ac agored er mwyn gwrando ar farn y cyhoedd am yr holl opsiynau a'i ystyried."

Yn 么l y penaethiaid nid oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yma a bydd y newidiadau ond yn effeithio ar gyfradd fach o gleifion.

Mae byrddau iechyd hefyd wedi llunio cynlluniau eu hunain ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau cymdeithasol a chynradd.