Ymateb gwleidyddol i'r ad-drefnu

Disgrifiad o'r llun, Mae protestiadau wedi eu cynnal ar draws Cymru i'r newidiadau i'r gwasanaeth iechyd

Cyn i'r cynlluniau ar gyfer ad-drefnu gwasanaethau ysbytai yn y de gael eu cyhoeddi'n ddiweddarach mae'r gwrthbleidiau wedi bod yn dweud eu barn ar y mater.

Mae Plaid Cymru a'r Ceidwadwyr wedi dweud y bydden nhw'n gwrthwynebu unrhyw gynlluniau fyddai'n arwain at adrannau gofal brys yn cael eu hisraddio.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol ar y llaw arall wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o fethu a darbwyllo pobl ynglŷn â'r newidiadau a'r rhesymau tu ôl iddynt.

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford bydd angen i'r byrddau iechyd fwrw ymlaen a'r cynlluniau er gwaetha'r faith y gallai rhai agweddau ohonyn nhw fod yn amhoblogaidd ar lawr gwlad.

Barn Mr Drakeford yw bod angen "rhoi terfyn ar ansicrwydd y cyhoedd a gwneud y gwasanaeth iechyd yn fwy cynaliadwy".

Gwrthwynebu

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud y bydd ei phlaid yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i dynnu canolfannau gofal brys o ysbytai, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r angen fwyaf.

Dywedodd hefyd bod y llywodraeth wedi "methu esbonio pam" maent o'r farn bod angen canoli gwasanaethau mewn llai o ysbytai mwy o faint.

Mae'n dyfalu y bydd rhai gwasanaethau'n cael eu symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ger Llantrisant.

"Ni fydd pobl yn y Cymoedd yn derbyn gwasanaethau brys yn cael eu tynnu o Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu unrhyw ysbyty arall.

"Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal sydd â phroblemau iechyd hanesyddol yn ogystal â'r amseroedd ymateb ambiwlans gwaethaf yng Nghymru a chanran gymharol isel sy'n berchen gar yma," meddai Leanne Wood.

"Mae pobl yn ddig am reswm da ac mae llawer yn ofni am orfod teithio i Ben-y-bont ar Ogwr, Caerdydd neu Ferthyr Tudful mewn argyfwng difrifol. Mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu cymryd y gwasanaethau hyn i ffwrdd oddi wrth ein hysbytai a byddwn yn ymladd yn erbyn y newidiadau hyn."

Beio'r Llywodraeth

Mae'r Ceidwadwyr hefyd yn credu y dylid cael gwared ac unrhyw gynlluniau i israddio adrannau brys.

Yn ôl llefarydd y Blaid Geidwadol yn y Cynulliad Darren Millar, bai Llywodraeth Cymru yw'r ffaith bod llai o arian ar gael ar gyfer ysbytai.

"Mae'r opsiynau hyn yn ganlyniad i doriadau Llafur Cymru i'r gwasanaeth iechyd sy'n parhau i gael effaith ddinistriol ar ein hysbytai.

"Er y byddai moderneiddio rhai gwasanaethau yn cael ei groesawu, ni ddylai unrhyw gynlluniau i israddio adrannau achosion brys yng Nghymru fynd yn eu blaen."

Dim argyhoeddi

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams hefyd yn credu nad yw'r llywodraeth wedi llwyddo i esbonio i'r cyhoedd pam bod angen y newidiadau.

Dywedodd: "Mae Llywodraeth Cymru wedi methu'n llwyr ag argyhoeddi'r cyhoedd - gellir gweld yn yr adwaith cryf yng ngogledd, canolbarth a gorllewin Cymru.

"Byddwn yn aros i weld a oes gan y cyhoedd fwy o hyder yn y cynigion yma - ond rwy'n amau ​​hynny."

Y cyhoedd yn deall

Nid yw Mr Drakeford yn cytuno.

Mae'n dweud bod y cyhoedd yn deall pam bod angen ad-drefnu: "Mae mwy a mwy o bobl yn derbyn bod newid yn hanfodol os ydym am gynnal safonau cyfredol o ofal.

"Mae'r gwasanaeth iechyd yn wynebu nifer o heriau, gan gynnwys poblogaeth sy'n heneiddio, prinder byd-eang o arbenigedd clinigol, cyfnod o galedi parhaus.

"Hefyd mae technolegau newydd yn ei gwneud yn fwy posibl nag erioed i ddarparu gofal iechyd y tu allan i'r ysbyty.

"Rwy'n deall nad yw pobl bob amser yn mynd i fod yn hapus gyda chynlluniau sy'n effeithio ar wasanaethau lleol, ond yn awr mae angen dod a'r broses hon i ben fel y gallwn roi terfyn ar yr ansicrwydd cyhoeddus a rhoi'r gwasanaeth iechyd ar sylfaen fwy cynaliadwy. "