Targedau canser yn cael eu methu

Disgrifiad o'r llun, Targed y llywodraeth yw bod 95% o bobl sydd ag achosion o ganser ac angen triniaeth frys yn ei dderbyn o fewn dau fis

Mae amseroedd aros am driniaeth ar gyfer achosion brys o ganser yn parhau i gael eu methu er i Lywodraeth Cymru addo y bydden nhw'n cael eu cyrraedd erbyn diwedd mis Mawrth eleni.

Mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod nifer y cleifion sydd ddim yn dechrau eu triniaeth o fewn y targed o ddau fis yn cynyddu.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Carwyn Jones addo y byddai'r targed o 95% o gleifion yn derbyn triniaeth o fewn dau fis yn cael ei gyrraedd erbyn Mawrth 2013, ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos mai dim ond 84% wnaeth ddechrau triniaeth o fewn yr amser penodedig.

Dim ond un o'r saith bwrdd iechyd Cymreig wnaeth lwyddo i gyrraedd y targed, sef Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.

Perfformiadau amrywiol

Dyw'r targed ddim wedi cael ei gyrraedd yr un waith o dan brif weinidogaeth Carwyn Jones ers Rhagfyr 2009.

Gofynnodd yr Aelod Cynulliad Ceidwadol Angela Burns wrth Mr Jones ym mis Ionawr pryd oedd o'n meddwl y byddai'r targed o 95% yn cael ei gyrraedd.

Atebodd Mr Jones: "Ry'n ni'n disgwyl cadw'r addewid erbyn diwedd Mawrth."

Ond ar gyfer tri mis cyntaf 2013 dim ond 83.6% (1,165 allan o 1,393) o'r bobl gafodd ddiagnosis o ganser ac oedd angen triniaeth frys wnaeth dderbyn y driniaeth o fewn 62 diwrnod.

Fe fu bron i'r llywodraeth gyrraedd y targed ym Medi 2010 gyda ffigwr o 94%.

Mae'r ffigyrau'n dangos bod tebygolrwydd unigolyn o dderbyn triniaeth o fewn y 62 diwrnod yn dibynnu ar ba ardal bwrdd iechyd mae ef neu hi yn byw.

Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg oedd y pellaf o'r nod gydag ond 69.9% o gleifion yn derbyn triniaeth o fewn dau fis.

Fe wnaeth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, ar y llaw arall, ei gyrraedd yn gyfforddus, gyda ffigwr cyfatebol o 98%.

'Toriadau'

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos bod y llywodraeth wedi methu'r targed o sicrhau bod 98% o bobl sydd ag achosion o ganser nad ydynt yn achosion brys yn derbyn triniaeth o fewn mis - 97.4% oedd y ffigwr o ddechrau Ionawr hyd at ddiwedd Mawrth.

Ond mae'r targed hwnnw wedi bod yn cael ei gyrraedd yn gyson fel rheol a hwn oedd ond yr ail dro iddo gael ei fethu yn yr 13 chwarter diwethaf.

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud mai "toriadau o 拢800m i'r gyllideb iechyd" sy'n gyfrifol am y methiant i gyrraedd y targedau.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Pan fydd claf yn derbyn y newyddion trychinebus fod ganddo beth sy'n edrych fel canser, mae sicrhau triniaeth gyflym yn hanfodol, ond yn anffodus mae toriadau Llafur i'r gwasanaeth iechyd yn cyfyngu capasiti ac yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff sydd eisoes yn gwneud gormod.

"Mae'n bryd i lywodraeth Lafur Carwyn Jones ailystyried y toriadau i gyllideb y gwasanaeth iechyd a sicrhau bod gwasanaethau canser yng Nghymru yn cael eu hariannu'n briodol fel y gall y gwasanaeth iechyd helpu mwy o gleifion i fyw gyda chanser, a gwella."

'Siomedig'

Mae'r elusen ganser Macmillan wedi disgrifio'r ffigyrau fel rhai "siomedig".

Dywedodd Susan Morris, rheolwr cyffredinol ar gyfer Macmillan yng Nghymru: "Mae angen bod yna ffocws go iawn o weithredu er mwyn sicrhau gwelliant parhaol...

"Yn amlwg, mae angen i rai pethau newid yn sylweddol er mwyn gwneud yn si诺r fod yna weithredu cyson a chysondeb o ran triniaeth ledled Cymru."

Ym Mehefin 2012 fe lansiodd y llywodraeth gynllun pum mlynedd o'r enw 'Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni Canser' er mwyn ceisio lleihau'r nifer oedd yn cael canser a gwella'r gofal roedd pobl yn ei dderbyn.

Fe wnaeth y llywodraeth gydnabod bod y ffigyrau'n "siomedig" gan ddweud eu bod nhw'n ystyried cyrraedd targedau'n hollbwysig.

'Gwella'

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae'r mwyafrif helaeth o gleifion yn cael eu gweld o fewn y targed. Mae nifer y cleifion sydd dan sylw yn yr ystadegau hyn yn gymharol fach ac mae ymyrryd yn aml yn broses gymhleth, sy'n golygu y gall newidiadau bach effeithio ar y darlun cyffredinol.

"Mae'n siomedig nad yw targed wedi ei gyflawni yn ystod y chwarter olaf ar gyfer amseroedd aros canser.

"Mae'r perfformiad wedi cael ei effeithio gan y pwysau difrifol achoswyd gan y gaeaf ym mis Ionawr 2013 a'r tywydd gwael welwyd ym Mawrth 2013.

"Er nad yw perfformiad yn erbyn y targed 62 diwrnod wedi gwella yn unol 芒'r disgwyliadau ar gyfer y chwarter yn ei gyfanrwydd, mae'n galonogol nodi bod perfformiad ym mis Mawrth 2013 bedwar pwynt canran yn uwch nag ym mis Chwefror 2013, ac mai hwn yw'r perfformiad misol uchaf ers Hydref 2012.

"Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'r duedd o welliant barhau i'r flwyddyn ariannol hon."

Mae'r llywodraeth yn lansio arolwg heddiw fydd yn gofyn i ddioddefwyr canser o amgylch Cymru sut brofiad o'r system maen nhw wedi ei gael.

Roedd gwneud hyn yn rhan o faniffesto'r Blaid Lafur a bydd yr arolwg gyntaf o'i fath i gael ei gynnal yng Nghymru.