Ambiwlansys: Methu targedau eto

Disgrifiad o'r llun, Cafwyd ymateb i 57% o alwadau categori A o fewn 8 munud - targed Llywodraeth Cymru yw 65%

Mae ffigyrau a gyhoeddwyd ddydd Mercher yn dangos bod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi methu targedau ymateb i'r galwadau mwyaf argyfyngus am yr 11eg mis yn olynol.

Dengys y ffigyrau am fis Ebrill bod y gwasanaeth wedi ymateb i 57% o alwadau categori A o fewn 8 munud, sy'n well na pherfformiad mis Mawrth o 53%.

Ond mae'r ffigyrau ymhell islaw'r targed cenedlaethol a bennwyd gan Lywodraeth Cymru o ymateb i'r galwadau pwysicaf o fewn wyth munud, sef 65%.

Mae'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn ystyried ar hyn o bryd beth yw'r ffordd orau o ddatblygu amseroedd ymateb ambiwlansys Cymru.

Yn ddiweddar cyhoeddwyd adroddiad o adolygiad o'r gwasanaeth sy'n argymell ailwampio targedau ambiwlans.

Prif bwyntiau

Ymhlith y prif bwyntiau yn y ffigyrau ymateb diweddaraf mae :-

  • Cafwyd 34,866 o alwadau 999 ym mis Ebrill eleni - 6.3% yn fwy nag ym mis Ebrill 2012;
  • Roedd 14,379 o'r galwadau yn rhai categori A (achosion lle mae bywyd mewn perygl) - 10.5% yn uwch nag Ebrill 2012 ond 10.5% yn llai na Mawrth 2013;
  • Cafodd 57.2% o'r galwadau categori A ymateb o fewn wyth munud, 75% o fewn 12 munud a dros 90% o fewn 20 munud.

Wrth amddiffyn y ffigurau diweddara', dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi gweld cynnydd o 4% yn ystod mis Ebrill yn nifer yr achlysuron ble y cyrhaeddon nhw argyfwng o fewn y targed wyth munud.

"Tra bod hyn yn galonogol, mae angen gwneud mwy i sicrhau bod perfformiad yn gwella yn yr hirdymor.

"Mae'r Gweinidog Iechyd wedi derbyn nifer o argymhellion a wnaethpwyd yn dilyn adolygiad diweddar o'r gwasanaeth, gan ganolbwyntio ar gyflwyno gwasanaeth clinigol i sicrhau fod cleifion yn cael yr ymateb cywir, ar yr amser cywir ac yn y lle cywir."

'Siomedig'

Wrth ymateb i'r ffigyrau dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Iechyd, Darren Millar AC:

"Mae'r ffigyrau diweddaraf am amseroedd ymateb ambiwlans yn ddarllen siomedig am sut y mae'r GIG yn perfformio yn dilyn toriadau o 拢800 miliwn gan Lywodraeth Lafur Carwyn Jones.

"Mae targed Llywodraeth Cymru o ymateb i 65% o alwadau o fewn wyth munud i is na thargedau mewn rhannau eraill o'r DU, ac eto mae'r targed yna'n cael ei fethu'n rheolaidd.

"Bellach mae Cymru wedi cael 14 mlynedd o weinidogion iechyd Llafur sydd wedi bod yn gyfrifol am waethygu perfformiad y gwasanaeth ambiwlans, ac er fy mod yn derbyn bod y gweinidog iechyd yn dechrau gweithredu rhai o argymhellion yr adolygiad diweddaraf i'r gwasanaeth ambiwlans, mae torri gwasanaethau argyfwng a'r toriadau mwyaf erioed yn y GIG yng Nghymru yn si诺r o wneud pethau'n waeth."

'Dim yn ddigonol'

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Kirsty Williams AC:

"Mae'r methiant parhaus yma yn siomedig iawn ac yn dangos pa mor wael y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi rheoli ein gwasanaeth ambiwlans.

"Yn anffodus mae'r ffigyrau yma'n dangos bod gan Gymru yr amseroedd ymateb gwaethaf ar y tir mawr yn y DU.

"Yn dilyn yr adolygiad ambiwlans, mae'r gweinidog iechyd wedi dweud ei fod am gadw'r targed wyth munud - penderfyniad yr wyf yn ei gefnogi'n llwyr.

"Mae'r targed yn hanfodol er mwyn dilyn sut y mae ein gwasanaeth ambiwlans yn perfformio o gymharu 芒 gweddill y DU. Ar hyn o bryd rydym ymhell y tu 么l i weddill y DU.

"Rwy'n cydnabod bod nifer anferth o alwadau ym mis Ebrill ac yn sicr mae gwelliant wedi bod i ffigyrau ofnadwy'r mis blaenorol, ond rydym yn dal i fod yn bell i ffwrdd o dderbyn gwasanaeth sy'n ddigonol hyd yn oed."

'Annerbyniol'

Ar ran Plaid Cymru dywedodd eu llefarydd ar iechyd, Elin Jones AC:

"Mae methiant Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru i gwrdd 芒'r targedau unwaith eto yn bryderus yn enwedig gan ei fod yn dilyn y cynlluniau i ad-drefnu ysbytai a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

"Mae gan ardal fel Rhondda Cynon Taf - a fydd yn colli gwasanaethau o dan y cynllun sy'n cael ei ffafrio - amser ymateb ambiwlans o lai na 50%, ymhell islaw'r nod o 65%.

"Er bod yna gwestiynau am y dangosydd mwyaf priodol am amseroedd ymateb ambiwlansys, yn amlwg mae methu'r targed fis ar 么l mis yn annerbyniol."