Achos Bradley Manning wedi dechrau

Ffynhonnell y llun, AP

Disgrifiad o'r llun, Mae wedi pledio'n euog i 10 o'r 22 gyhuddiad

Mae'r achos wedi dechrau yn erbyn y milwr, gafodd ei fagu yn Sir Benfro, ar gyhuddiad o ddatgelu dogfennau cyfrinachol i wefan Wikileaks.

Yn y llys milwrol yn Fort Meade, Maryland, honnwyd i Bradley Manning anfon 250,000 o ddogfennau diplomyddol a 500,000 o adroddiadau o faes y gad yn Afghanistan ac Irac i Wikileaks yn 2009 a 2010.

Cafodd Preifat Manning, 25 oed, ei addysg yn Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd ac mae ei fam yn dal i fyw yn Sir Benfro.

10 cyhuddiad

Mae wedi pledio'n euog i 10 o'r 22 gyhuddiad yn ei erbyn ond nid y rhai mwyaf difrifol o helpu'r gelyn.

Ac mae'r honiadau'n ymwneud 芒 datgelu'r nifer fwya' o ddogfennau cyfrinachol Llywodraeth America.

Dywedodd yr erlynydd Capten Joe Morrow: "Mae'r achos yn enghraifft dda o'r hyn sy'n digwydd pan yw rhywun trahaus yn cael mynediad i ddogfennau.

"Nid mater o ollwng gwybodaeth wedi ei thargedu yw hwn ond achos am filwr gasglodd gannoedd o filoedd o ddogfennau a'u cyhoeddi ar y we fel y gallai gelynion y wlad hon eu defnyddio."

Osama bin Laden

Dywedodd fod Osama bin Laden wedi defnyddio'r wybodaeth honno.

Wedyn dywedodd cyfreithiwr Preifat Manning David Coombs ei fod yn ddyn "ifanc a diniwed" pan gyrhaeddodd Irac.

Ond yn 2009, wedi i ddyn o Irac farw mewn ymosodiad, fe ddathlodd ei gydfilwyr am nad oedd milwr o America wedi ei anafu.

Dechreuodd Preifat Manning gasglu gwybodaeth a phe bai'n ei chyhoeddi, meddai, roedd yn credu y byddai'r byd yn "lle gwell".

Cwtogi

Mae disgwyl i ddwsinau o bobl roi tystiolaeth yn yr achos.

Beth bynnag fydd ei ddedfryd ar ddiwedd yr achos, fe fydd y ddedfryd yn cael ei chwtogi o 112 o ddiwrnodau wedi i farnwr ddweud ei fod wedi derbyn triniaeth rhy llym yn ystod ei gaethiwed o naw mis wedi ei arestio yn 2010.