麻豆官网首页入口

Llywodraeth yn 'anghyson' ym meysydd iechyd ac addysg

  • Cyhoeddwyd
Ward ysbytyFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Sefydliad Materion Cymreig yn cyfeirio at fethiant i gwrdd 芒 thargedau mewn meysydd fel iechyd

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn "anghyson" wrth gwrdd 芒 sialensiau hirdymor, yn 么l cyfarwyddwr gr诺p ymchwil blaenllaw.

Dywedodd Lee Waters, o'r Sefydliad Materion Cymreig, fod y llywodraeth Lafur bresennol wedi llwyddo'n wleidyddol er nad oes ganddynt fwyafrif.

Ond cyfeiriodd at fethiannau ym meysydd iechyd ac addysg a oedd angen sylw.

Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi adroddiad ar eu rhaglen lywodraethol yn ddiweddarach.

Nod yr adroddiad blynyddol hwn yw rhoi darlun o berfformiad y llywodraeth.

Bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi ar-lein yn ddiweddarach ddydd Mawrth.

Targedau

Yn 么l Mr Waters, a ddechreuodd ei swydd gyda'r Sefydliad yn gynharach eleni, mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones wedi cadw ei lywodraeth mewn grym ers 2011 er bod ganddynt leiafrif a'i fod wedi "taflu'r bai" ar doriadau mewn gwariant ar San Steffan.

"Mae wedi gwneud yn dda ar yr ochr wleidyddol," meddai Mr Waters.

"Ond mae llywodraeth yn ymwneud 芒 phenderfyniadau hirdymor yngl欧n 芒'r problemau ry'n ni'n wynebu, ac rwy'n credu fod y perfformiad yn llawer mwy anghyson o ran hynny."

Esboniodd nad oedd y llywodraeth wedi cwrdd 芒'i thargedau ar amseroedd aros na'u targedau ambiwlans.

"Maent wedi bod yn llywodraethu ers 13 mlynedd ac maent yn dal i fethu 芒 chwrdd 芒 thargedau o fewn y gwasanaeth iechyd."

Er cyflwyno nifer o newidiadau i'r maes, mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews wedi rhybuddio y bydd y canlyniadau Pisa nesa' yn yr hydref yn annhebygol o ddangos gwelliant.

"Ar sail eu maen prawf eu hunain o ran llywodraethu, mae ganddynt ffordd bell i fynd," meddai Mr Waters.

Ychwanegodd: "O ran sefyllfa, o ran delwedd, mae Carwyn Jones yn gwneud yn dda iawn ac mae'r arolygon barn yn awgrymu ei fod yn boblogaidd iawn, yn fwy poblogaidd na'i blaid. Ac mae hefyd yn cael hwb o'r ffaith fod Llafur yn gwneud yn dda yn yr arolygon barn yn y DU.

"Mae'n dod drosodd yn dda fel Mr Cymru.

"Rwy'n credu mai'r hyn sy'n anoddach yw deall yn nhermau strategaeth y llywodraeth, beth mae hynny'n feddwl.

"Mae 'na lawer o weinidogion yn brysur yn gwneud pethau ar eu liwt eu hunain, ond y llywodraeth yn ei chyfanrwydd - a yw e'n fwy na'r darnau sy'n ei ffurfio? Dyna, rwy'n credu, yw'r cwestiwn mae angen i Carwyn Jones ei ateb."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol