麻豆官网首页入口

'Mynd allan i werthu, nid i ofyn'

  • Cyhoeddwyd
Tony EvansFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o鈥檙 llun,

"Mae angen mwy o bwyslais ar dechnoleg a defnyddio technoleg"

Mae angen i Gymru wneud mwy i ddatblygu busnesau cynhenid, ochr yn ochr ag annog buddsoddiad o dramor, yn 么l un Cymro sy'n gweithio fel arbenigwr ariannol yn Japan.

Mae Tony Evans, sy'n wreiddiol o Benrhyndeudraeth, wedi ymgartrefu yn Tokyo ers wyth mlynedd.

Wrth i daith fasnach Llywodraeth Cymru gychwyn yn Japan, dywed Mr Evans: "Mae cwmn茂au yn Japan hefo llwyth o arian ar eu balance sheets, felly maen nhw'n edrych am fuddsoddiadau ond maen nhw eisiau rhywbeth neith neud pres, wna' nhw ddim buddsoddi jyst er mwyn buddsoddi."

"Maen nhw wedi buddsoddi lot ym Mhrydain lot yn barod... yn manufacturing, ceir... maen nhw'n edrych ar ynni niwclear...

"Mae dros 400 o flynyddoedd o berthynas rhwng Prydain a Japan flwyddyn yma (teithiodd yr East India Company i Japan yn 1613), mae hynna'n un peth mawr ofnadwy, ac maen nhw'n rhoi lot o bwyslais ar berthynas ma nhw'n gwybod sydd yn saff."

Optimistiaeth

Bu twf economaidd sylweddol iawn yn ystod "gwyrth economaidd" Japan yn 60au, 70au ac 80au'r ugeinfed ganrif. Arafodd twf cyfartalog economi Japan yn y nawdegau, ond parhaodd i dyfu ar ddechrau'r mileniwm newydd cyn syrthio i ddirwasgiad deirgwaith ers 2008 - y tro diwethaf yn 2011 wedi'r .

Ond mae Tony Evans yn optimistaidd ynghylch dyfodol economaidd ei wlad fabwysiedig, yn bennaf oherwydd agwedd y Prif Weinidog, Shinzo Abe:

"Mae'r prif weinidog, wedi dweud bod rhaid neud rhywbeth amdano fo - mae Japan wedi bod mewn dirwasgiad ers ugain mlynedd, ac mae pobl wedi cael llond bol.

"Mae Abe eisiau cael y wlad i dyfu fwy, eisiau neud buddsoddi, eisiau newid y ffordd mae pethau'n digwydd yma a nawr mae e wedi rhoi Kuroda yn y Bank of Japan ac mae e'n union yr un peth...

"Un peth dydy lot o bobl ddim yn gwybod, roedd Kuroda, llywodraethwr Bank of Japan, yn Rhydychen yn y brifysgol ac felly mae ganddo agwedd orllewinol tuag at bolis茂au, ac mae hynna'n beth da yn Japan - polis茂au gorllewinol gydag wyneb Japaneaidd."

Gwersi o Japan

Felly os ydy Japan yn elwa o rai agweddau gorllewinol, beth all Cymru ei ddysgu o Japan?

Yn 么l Tony Evans, byddai cael mwy o brentisiaethau yn hwb i economi Cymru. Mae'n system sy'n hynod lwyddiannus yn Japan meddai. Mae hefyd angen newid agweddau myfyrwyr a graddedigion:

"Mae gormod o bwyslais wedi bod ar gael pobl o'r prifysgolion i fynd fewn i'r civil service, i fynd fewn i job nid i greu jobs, pwyslais ar fynd i brifysgol i gael gradd mewn rhywbeth, dim lot o apprenticeships, tase mwy o sgiliau fel yna byddai'r economi (Gymreig) yn codi ei hun..."

Mae'n cynnig y cyngor canlynol i Edwina Hart ar ddechrau ei hymweliad 芒 Japan: "Mae angen mynd i siarad hefo cwmn茂au o gartre' sydd yma yn barod. Mae Chamber of Commerce Prydeinig yma, mae Cymdeithas Dewi Sant yma.

"Mae yna lot o gysylltiadau yn fan hyn, ac mae eisio mynd allan a dweud beth y mae Cymru yn gallu ei gynnig i Japan a mynd allan a gwerthu - nid mynd allan i ofyn, ond mynd allan i werthu."

'Tyfu sector sydd yno'n barod'

Tra ei fod yn cefnogi unrhyw ymgais i ddenu buddsoddiadau newydd o Japan i Gymru, mae byw oddi cartref wedi rhoi persbectif arall i Mr Evans ar yr hyn y dylai Cymru ganolbwyntio arno er mwyn tyfu ei heconomi yn y dyfodol.

"Mae cael buddsoddiadau o'r tu allan yn un peth, ond hefyd mae angen gweithio mwy hefo busnesau, a phrifysgolion, i gael mwy o entrepreneurship."

Roedd hefyd yn dadlau o blaid canolbwyntio ar sectorau penodol - mae technoleg yn un amlwg meddai, ond hefyd "natural resources, egni newydd, egni gwyrdd, ma' hynna'n un peth. Mae dal llwyth o lo, pethau y basen nhw'n medru neud.

"Ma' lot o dir da yng Nghymru i dyfu, i fagu anifeiliaid. Mae'r byd yn tyfu, ac mae pobl eisio bwyta - gallai Cymru neud yn well yn y sector fwyd. Tyfu sector sydd yno'n barod a gwneud o'n fwy.

"Wrth i'r dosbarth canol ehangu, mae 2 biliwn o bobl eisiau dod mewn i'r middle class, wrth iddyn nhw ddod fewn, neith eu hagwedd at fwyd newid. Does dim digon o fwyd i fynd rownd y byd, mae Cymru yn lle hefo tir da, hefo'r sgiliau i fwrw ymlaen."

Syniadau y dylai Llywodraeth Cymru gnoi cil arnyn nhw? Efallai ei bod eisoes yn meddwl ar hyd llinellau tebyg - mae cwmni bwyd Abergavenny Fine Foods, a Teddington Engineered Solutions sy'n cyflenwi cyfarpar ar gyfer y diwydiant ynni yn rhan o'r daith fasnach.

Ochr yn ochr 芒 nhw ar y daith, mae cwmniau Aur Clogau, ISCA UK sy'n cynhyrchu cemegau, IQE sy'n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), Reid Lifting sy'n datblygu cyfarpar codi, cwmni dylunio a gwehyddu Melin Tregwynt, a chwmni ymchwil clinigol Simbec Research.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r 麻豆官网首页入口 ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol