拢12m yn diogelu 600 o swyddi

Disgrifiad o'r llun, Bob blwyddyn mae 1.5m o 诺yn yn cael eu cyflenwi i farchnadoedd yn Ewrop.

Mae un o gyflogwyr mwya'r sector breifat yng nghefn gwlad wedi buddsoddi 拢12m mewn ffatri brosesu cig a diogelu 600 o swyddi.

Erbyn hyn, medd y rheolwyr, mae cyfleusterau ffatri Dunbia yn Llanybydder ar y ffin rhwng Ceredigion a Sir G芒r "ymhlith y rhai gorau yn y byd".

Bob blwyddyn mae 1.5m o 诺yn yn cael eu cyflenwi i farchnadoedd yn Ewrop.

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi agor y ffatri ar ei newydd wedd.

'Yn gyffrous'

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Gr诺p Dunbia Jim Dobson: "Rwy wrth fy modd gyda'r cyfleusterau newydd ac mae'r dyfodol yn gyffrous.

"Mae llawer o gwsmeriaid wedi bod yng Nghymru a chyda'r cyfleusterau newydd rwy'n sicr y bydd y busnes yn datblygu."

Dywedodd Prif Weithredwr Hybu Cig Cymru Gwyn Howells fod y buddsoddi'n "newyddion gwych".

"Mae'r buddsoddi'n dangos ffydd Dunbia yn ffermwyr Cymru ac ansawdd eu da byw.

"Gan fod safonau uchel yn y gadwyn gyflenwi mae ein cig yn cael ei gydnabod yn gynnyrch o safon drwy'r byd.

"Mae'r cwmni drwy gydweithio 芒 ni wedi llwyddo i gael cytundebau mewn sawl gwlad, gan gynnwys Canada, Sbaen, Portiwgal a'r Eidal."

Cyfrannodd Llywodraeth Cymru grant o 拢2.71m.