Edwina Hart ar daith fasnach i Japan

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Mae Edwina Hart yn Japan tan Fehefin 16

Mae'r Gweinidog Economi Edwina Hart yn arwain ymgyrch masnach i hyrwyddo busnesau Cymreig yn Japan.

Y llynedd fe allforiodd cwmn茂au o Gymru gwerth 拢274m o nwyddau i Japan a dywed Llywodraeth Cymru fod 50 o fusnesau Japaneaidd yng Nghymru a rheini yn cyflogi dros 6,000 o bobl.

Mae Edwina Hart yn dweud ei bod eisiau defnyddio'r ymweliad i'r wlad i gryfhau'r cysylltiadau sydd yn bodoli rhwng y ddwy wlad.

Mae rhai o'r sector technoleg a chelf a chrefft yn ymuno gyda'r gweinidog ar y daith.

Cyfarfod busnesau

Bydd yr ymweliad yn para tan ddydd Sul 16 o Fehefin a bydd Edwina Hart yn cwrdd 芒 nifer o swyddogion gweithredol cwmn茂au megis Sony, Toyota a Hitachi sydd yn bwriadu codi atomfa niwclear newydd yn Ynys M么n.

Trafod cyfleoedd i fuddsoddi yn y dyfodol a sut y gall Llywodraeth Cymru gefnogi projectau newydd fydd y gweinidog gyda'r busnesau.

Dywedodd Mrs Hart: "Mae ein rhaglen masnach ryngwladol yn ffurfio rhan hanfodol o'n bwriad i ysgogi busnesau i dyfu.

"Mae cenhadaeth fel hon yn rhan bwysig o'r gefnogaeth rydyn ni yn cynnig i gwmn茂au. Y nod yw helpu cwmn茂au i gael mynediad i farchnadoedd newydd, darganfod gwerthwyr newydd, ymchwilio cyfleoedd posib a hybu eu cynnyrch a'u gwasanaeth ar lefel rhyngwladol."