Gwireddu potensial

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation

Disgrifiad o'r llun, Cafodd y fferm bysgod ei sefydlu ar Ynys M么n yn 2002
  • Awdur, Gan Rhodri Tomos
  • Swydd, Newyddion Ar-lein

Ychydig dros 10 mlynedd yn 么l, fe ddechreuodd busnes arloesol ar Ynys M么n.

Ffermio pysgod oedd hi ond yr hyn oedd yn gwneud y safle ym Mhenmon yn unigryw oedd mai torbytiaid oedd y pysgod dan sylw a'u bod yn cael eu ffermio mewn dull cynaliadwy.

Mae torbytiaid yn bysgod poblogaidd ar fwydlenni nifer o dai bwyta yn Llundain ac ymhlith y drutaf i'w prynu.

Pan frathodd y dirwasgiad bum mlynedd yn 么l, fe lwyddodd y busnes i gadw'i ben uwchlaw'r d诺r am gyfnod.

Ond fe ddaeth y trafferthion ariannol sydd wedi dod i ran nifer o fusnesau tebyg ac aeth y perchnogion ar y pryd, cwmni Selonda, i ddwylo'r gweinyddwyr ddechrau 2012.

Ond cyn i unrhyw swyddi gael eu colli fe ddaeth cwmni arall i'r adwy, Anglesey Aquaculture, gan achub y cwmni a newid cyfeiriad.

Daeth newid i'r pysgod hefyd. Mae'r dulliau cynaliadwy yn parhau ond bellach mae'r cwmni'n ffermio draenogod y m么r.

'Gwireddu potensial'

Tra bod Llywodraeth Cymru yn gwario arian sylweddol wrth geisio denu buddsoddiad o dramor i Gymru a hefyd yn ceisio annog pobl ifanc i fod yn entrepreneuriaid, mae rhai wedi dweud bod ffordd arall o wella byd busnes.

Mae hwn yn golygu canolbwyntio ar fusnesau sy'n bodoli'n barod a'u hybu i dyfu - busnesau bach neu ganolig eu maint yw'r rhain ac mae llawer ohonyn nhw yng Nghymru.

Y llynedd fe wnaeth Dylan Jones-Evans, o Brifysgol Cymru, ymchwil ar y busnesau hyn.

Ar y pryd, fe ddywedodd: "Mae ystadegau'n dangos nad yw potensial y sector yma wedi cael ei wireddu yng Nghymru o'i gymharu 芒 gweddill y DU.

"Er enghraifft, pe bai cwmn茂au canolig eu maint yng Nghymru yn cyflogi'r un faint ar gyfartaledd 芒 busnesau o faint tebyg yng ngweddill y DU, fe fydden nhw'n ychwanegu 65,000 o swyddi a 拢9.5 biliwn i economi Cymru."

Dywedodd Anglesey Aquaculture mai dyna oedd eu nod nhw a bod Llywodraeth Cymru yn eu cynorthwyo.

Cefnogaeth

Byddai sawl un wedi ystyried dechrau 2012 yn gyfnod anodd iawn i ddechrau busnes newydd, ond mae'n ymddangos fod Anglesey Aquaculture yn mynd o nerth i nerth.

Yn 么l eu prif weithredwr, John Watters, mae'r ffaith bod y cwmni yng Nghymru wedi bod yn help mawr.

"Mae'r gefnogaeth sydd wedi, ac yn parhau i ddod, gan Lywodraeth Cymru yn hanfodol ac rwy'n credu heblaw am y gefnogaeth ni fyddai'r busnes yma mewn bodolaeth heddiw.

"Yn sicr, rwy'n teimlo ein bod ni yng Nghymru mewn lle llawer gwell i wynebu'r heriau economaidd os ydych yn ein cymharu gyda gwledydd fel Sbaen, er enghraifft.

"Fe dreuliais i flynyddoedd yn gweithio dramor ac yn ystod fy nghyfnod yn 么l yng Nghymru rwyf wedi gweld sawl busnes yn mynd i'r wal.

"Fe dreuliais i gyfnod yn Chile, ac rwy'n credu eu bod mewn safle gwell na ni oherwydd llafur rhad a chael yr Unol Daleithiau fel eu prif gwsmeriaid.

"Wedi dweud hynny, fe fyddwn i'n dweud bod Cymru yn lle llawn cystal ag unrhyw ran arall o'r DU i wneud busnes ac mae Llywodraeth Cymru yn fwy o help nag o lyffethair."

Cytundeb newydd

Mae'r wythnos hon wedi bod yn un allweddol i'r cwmni.

Ddydd Llun fe ddechreuodd cytundeb newydd y cwmni gyda Whole Foods Market o'r Unol Daleithiau.

Mae'r cwmni Americanaidd wedi dewis y cwmni o F么n fel cyflenwr draenogod y m么r i'w holl siopau yn y DU.

Mae'r cwmni yn adnabyddus drwy'r byd fel un sy'n defnyddio bwydydd naturiol a chynaliadwy, ac mae eu safonau yn galw am ddefnyddio cynhyrchwyr sy'n gwarchod safon d诺r a bywyd gwyllt, a sicrhau bod modd olrhain y cynnyrch o'r fferm i'r farchnad.

Roedd hynny'n hanfodol wrth sicrhau'r cytundeb, yn 么l Kenny Woods, rheolwr marchnata Anglesey Aquaculture.

"Mae archwiliad annibynnol diweddar yn dangos ein bod wedi ticio pob bocs a mwy," meddai.

"Wrth ddefnyddio sustem gaeedig, rydym yn sicrhau nad yw'r pysgod yn dod i gysylltiad 芒 physgod nac adar gwyllt allai gario heintiau.

"Mae ein bwyd pysgod i gyd yn dod o ffynonellau cynaliadwy ac mae holl wastraff y safle'n cael ei gasglu, ei drin a'i basio at ffermwyr lleol i'w ddefnyddio fel gwrtaith.

"Rydym hefyd wedi derbyn Graddfa 1 gan y Gymdeithas Gwarchod Morol."

Cannoedd o siopau

Mae gan Whole Foods Market gannoedd o siopau o amgylch y byd ac er mai dim ond y siopau yn y DU fydd yn gwerthu pysgod M么n ar hyn o bryd, mae Mr Watters yn credu bod ei gwmni yn dechrau ffynnu go iawn, a bod golau ym mhen draw'r twnnel.

"Mae ein cynnyrch yn un 'premiwm' ac, yn amlwg, mae'n anodd gwerthu hynny mewn cyfnod o heriau economaidd," meddai.

"Ond rwan fel cwmni mae gennym lawer iawn o hyder i'r dyfodol, a llawer iawn o hyder yn ein cynnyrch.

"Mae pob arwydd ar hyn o bryd bod y farchnad i gynnyrch 'premiwm' fel hyn yn addawol dros ben, yn enwedig yn yr Unol Daleithiau."

Ac mae sefyllfa Anglesey Aquaculture yn adlewyrchu sefyllfa nifer o fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru gyda sawl arolwg diweddar yn dweud bod hyder o fewn y gymuned fusnes o'r diwedd yn dechrau tyfu.

Ar hyn o bryd, mae'r cwmni'n cyflogi 35 ym Mhenmon, ond dywed y cwmni eu bod "wedi ymrwymo i'w cynlluniau i ddatblygu ac ehangu'r busnes yng Nghymru".