Mudiad iaith yn anfon llythyr yn 么l

Disgrifiad o'r llun, Toni Schiavone anfonodd ymateb Carwyn Jones yn 么l

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi anfon ymateb Llywodraeth Cymru i'w cynigion polisi yn 么l, gan honni bod y ddogfen yn "hunan-amddiffynnol".

Roedd y mudiad wedi cynnig dros 30 o argymhellion polisi i'r llywodraeth er mwyn "cryfhau'r iaith" yn sgil canlyniadau siomedig Cyfrifiad 2011.

Roedd llythyr y Prif Weinidog Carwyn Jones yn cynnwys ymateb ei lywodraeth i'r cynigion oedd dros 18 tudalen o hyd.

Ysgrifennodd Toni Schiavone yn 么l at Mr Jones ar ran pwyllgor y mudiad a dweud mai rhestru beth oedd ei lywodraeth eisoes yn ei wneud oedd yr ymateb yn lle cynnig syniadau newydd.

'Dim llawer o ddiben'

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Robin Farrar: "Rydan ni'n croesawu ymateb manwl iawn y llywodraeth i'n cynigion polisi...

"Os mai unig ymateb y llywodraeth i gynigion mudiadau fel Cymdeithas yr Iaith yw rhestru'n hunan-amddiffynnol yr hyn y maen nhw yn ei wneud ar hyn o bryd, does dim llawer o ddiben i'w Chynhadledd Fawr."

Cyfeirio yr oedd at gynllun y Prif Weinidog i roi cyfle i bobl "ddweud eu dweud" yngl欧n 芒 beth ddylai gael ei wneud yn sgil yr "heriau anferthol" mae'r iaith yn eu hwynebu.

'Cynlluniau newydd'

Dywedodd Mr Farrar: "Rydan ni'n dychwelyd yr ymateb at y llywodraeth felly - a gofyn iddyn nhw am eu cynlluniau newydd ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

"Mae angen iddyn nhw ddadansoddi opsiynau gweithredu'n ychwanegol neu mewn modd gwahanol.

"Fydd dim pwynt i neb fynd i gynnig syniadau newydd os na fydd meddwl agored gan y llywodraeth ac os bydd yn ceisio amddiffyn ei hun yn unig."

Yn ymateb i honiadau'r gymdeithas, dywedodd llefarydd ar rhan Llywodraeth Cymru: "Mae'r Prif Weinidog wedi cyfarfod 芒 Chymdeithas yr Iaith ac wedi ymateb yn drylwyr i'w hargymhellion.

"Rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo'r iaith Gymraeg ac yn gweithio'n galed i sicrhau ei bod yn ffynnu.

"Rydyn ni'n agored i syniadau ar sut i wneud hyn, a dyna pam yr ydyn ni ar hyn o bryd yn cynnal trafodaeth genedlaethol ar yr iaith: Iaith Fyw: y Gynhadledd Fawr, sy'n rhoi cyfle i bawb sydd 芒 diddordeb yn y Gymraeg i ddweud eu dweud am y ffordd orau o sicrhau ei dyfodol.

"Fe fydd y wybodaeth a gaiff ei chasglu o'r sgwrs genedlaethol hon yn cael ei defnyddio i lywio gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol yr iaith ac i ddatblygu polis茂au a fydd yn helpu'r iaith i ffynnu."