麻豆官网首页入口

Diddymu'r WDA yn 'drychineb' i economi Cymru

  • Cyhoeddwyd
Awdurdod Datblygu Cymru
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Cafodd Awdurdod Datblygu Cymru ei lyncu gan Lywodraeth Cymru yn 2006

Dyw economi Cymru heb symud ymlaen ers y penderfyniad i ddiddymu Awdurdod Datblygu Cymru, y WDA, yn 2006.

Dyna farn cadeirydd y corff ar y pryd, Syr Roger Jones, sy'n dweud bod Cymru ddegawd y tu 么l i econom茂au eraill oherwydd y penderfyniad.

Gwadu hynny mae Llywodraeth Cymru, gan ddweud bod y rhesymau dros gyfuno'r Awdurdod 芒 Llywodraeth Cymru yn amlwg.

Yng nghanol Caerdydd, mae gweithwyr wrthi'n brysur yn adeiladu pencadlys newydd i Admiral - yr unig gwmni sydd wedi'i leoli yng Nghymru, sy'n rhan o fynegai can cwmni'r 'FTSE'.

Disgrifiad,

Adroddiad Geraint Thomas

Denu'r cwmni i'r wlad ugain mlynedd yn 么l, gyda chymorth grant gwerth 拢1miliwn oedd - ym marn rhai - un o lwyddiannau mwyaf Awdurdod Datblygu Cymru.

Yr awdurdod oedd wyneb Cymru mewn marchnadoedd tramor am 30 mlynedd gyda'r nod o ddenu cwmn茂au, swyddi a sicrhau ffyniant economaidd.

Ac er bod rhai o'r hadau a gafodd eu plannu gan yr asiantaeth yn ffynnu, mae'r corff bellach wedi hen farw.

Cymru'n 'colli allan'

Ond parhau mae'r dadlau yngl欧n 芒'r penderfyniad a gafodd ei wneud i'w ddiddymu yn 么l yn 2006.

Mae cadeirydd Ffederasiwn Busnesau Bach y Gogledd, Gwyn Evans - sydd hefyd yn rhedeg busnes ei hun - yn credu bod Cymru ar ei cholled heb y WDA.

"Pan o'n i efo'r awdurdod yn ei le o'n ni'n denu lot o fusnesau i mewn i Gymru, roedd 'na bobl dda iawn yn dallt busnes a hyn a'r llall yno," meddai.

"Yn y diwedd o'n nhw 'di sefydlu adran fusnesau bach hefyd so oedd hynny'n gymorth i fusnesau bach yng ngogledd Cymru hefyd ynde.

"Ma' hwnna i gyd wedi mynd. Yn bersonol - yn fy musnes fy hun - dwy e ddim wedi cael llawer o effaith arna' i, heblaw fel busnesau bach os 'dan ni'n denu busnesau mawr, mae busnesau bach yn elwa allan ohonyn nhw.

"Does dim o'r rheiny yma ar y funud so 'da'n ni'n colli allan."

'Newid sylweddol'

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cadeirydd y WDA ar y pryd, Syr Roger Jones, yn dweud mai trychineb oedd diddymu'r Awdurdod

Daeth arweinydd Plaid Cymru ar y pryd, Ieuan Wyn Jones, yn weinidog economi'r Llywodraeth yn 2007 pan ymunodd ei blaid mewn clymblaid gyda'r Blaid Lafur - flwyddyn ar 么l i Awdurdod Datblygu Cymru gael ei ddiddymu.

Roedd e yn y swydd tan 2011, ac mae e'n credu bod angen cael gwared 芒'r asiantaeth er lles economi'r wlad.

Dywedodd: "O'n i'n teimlo bod o'r penderfyniad iawn i 'neud a dwi'n dal i deimlo fod o'r penderfyniad iawn i neud oherwydd mi oedd economi Cymru wedi newid yn sylweddol ers dyddiau sefydlu'r awdurdod yn y 70au lle oedd gynnoch chi nifer fawr o gwmn茂au o Japan, yr Unol Daleithiau a gwledydd eraill oedd yn edrych am gartref.

"Erbyn diwedd y 90au a dechrau'r ganrif bresennol, mi roedd y patrwm wedi newid yn llwyr ac wrth gwrs roedd yr awdurdod hefyd wedi newid allan o bob rheswm mewn gwirionedd ac oedd y dyddie da ddim yn mynd i ddod 'n么l ac roedd angen rhywbeth gwahanol.

"Mi odd yr awdurdod yn gwneud gwaith arbennig o dda yn y blynyddoedd cynnar, tua'r diwedd roedd o wedi colli'r ffordd."

'Trychineb ulw'

Ond un sy'n gwrthwynebu'r safbwynt hynny'n llwyr yw Syr Roger Jones, oedd yn gadeirydd ar Awdurdod Datblygu Cymru pan gafodd gwaith yr asiantaeth ei ddirwyn i ben.

"Trychineb. Trychineb ulw oedd diffoddiad y WDA.

"Roedd hyd yn oed meddwl y gallai ein gweision sifil greu golud yn warthus. Dwi'm yn meddwl bod nhw'n deall sut ma' creu golud.

"Dyw economi Cymru heb symud ymlaen ers 2006.

"Be wedes i ar y pryd oedd mi gymrith hi dair blynedd iddyn nhw ddeall cymaint o gam oedden nhw wedi neud, tair blynedd arall i feddwl beth i wneud amdano fo, a hwyrach tair neu bedair blynedd eto i ddechrau dal i fyny.

"Da'n ni ddeng mlynedd y tu 么l i econom茂au eraill oedd yn yr un sefyllfa 芒 ni."

Wrth ymateb i sylwadau Syr Roger Jones, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, bod y rhesymau dros gyfuno'r Awdurdod a Llywodraeth Cymru yn amlwg.

Aeth y llefarydd ymlaen i ddweud bod economi'r byd wedi newid yn sylweddol ers 2004, a bod rhaid edrych i'r dyfodol yn lle trafod y gorffennol os yw Cymru am ffynnu, a bod y llywodraeth yn canolbwyntio ar greu swyddi o ansawdd uchel gyda'r pwyslais ar gefnogi busnesau cynhenid Cymreig yn ogystal 芒 denu buddsoddiad o dramor.