Cyhoeddi adroddiad am gyflwr addysg

Disgrifiad o'r llun, Bu llawer o ddyfalu am gynnwys yr adroddiad am ddyfodol strwythur addysg Cymru

Os yw gofyn a yw strwythur addysg yng Nghymru yn ddigon da yn hen gwestiwn, mae sawl llywodraeth wedi casglu bod ei ateb yn anodd.

Brynhawn Mawrth bydd atebion posib yn cael eu cynnig yn yr adroddiad y mae'r Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn ei gyhoeddi.

Mae'n bosib y bydd yr adroddiad Sicrhau Gwell Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn gwneud sawl awgrym, gan gynnwys sicrhau bod ysgolion yn cael eu harwain yn fwy effeithiol a bod 'na fwy o atebolrwydd.

Robert Hill sydd wedi cynnal yr adolygiad.

Cynghorydd polisi

Mae wedi gweithio fel cynghorydd polisi i gyn-Brif Weinidog y DU, Tony Blair, ac i weinidogion eraill yn y cabinet.

Bu hefyd yn uwch-reolwr ymchwil gyda'r Comisiwn Archwilio, yn ymgynghorydd rheoli, yn ymchwilydd ym maes polisi cymdeithasol ac yn ymgynghorydd addysg annibynnol.

Yn Nhachwedd y llynedd cyhoeddodd y gweinidog nad oedd yn barod i aros tan Hydref 2013 cyn cynnal adolygiad ar Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol.

Y nod, meddai, fyddai adolygu pa mor effeithiol yw'r system bresennol ar gyfer darparu gwasanaethau addysg ar lefel yr ysgol ac ar lefel yr awdurdod lleol.

Yn benodol, fe fyddai'r adolygiad yn ystyried y meysydd canlynol:

  • Gwella perfformiad ysgolion;
  • Codi safonau a gwella deilliannau ar gyfer dysgwyr o bob oedran;
  • Rhoi gwell cefnogaeth a her i ysgolion er mwyn gwella safonau;
  • Datblygu a chryfhau arweinyddiaeth mewn ysgolion ynghyd ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu;
  • Sicrhau gwerth am arian a bod adnoddau'n cael eu defnyddio mewn modd effeithiol;
  • Sicrhau cydlyniaeth a chysylltiadau cryf rhwng pob rhan o'r system addysg, gan gynnwys darpariaeth 么l-16 a'r agenda ehangach ar gyfer gwasanaethau plant.

Ond mae'n siwr mai un o'r awgrymiadau mwyaf dadleuol yw bod modd gwella'r sefyllfa trwy gael llai o awdurdodau addysg yng Nghymru.

Mae peth dyfalu y bydd yr adroddiad yn argymell sefydlu pedwar consortiwm addysg i wasanaethu pedair ardal o Gymru, sef Gogledd Cymru, De-Orllewin a Chanolbarth Cymru, De-Ddwyrain Cymru a Chanol De Cymru.