麻豆官网首页入口

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'

  • Cyhoeddwyd
Ysgol
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Adroddiad Hill wedi cyflwyno 85 opsiwn i'r llywodraeth

Dylid lleihau nifer awdurdodau addysg o 22 i 14, yn 么l un o brif argymhellion Adroddiad Hill gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae'r adroddiad yn dweud y dylid gwneud hyn erbyn mis Ebrill 2014 gyda chonsortia rhanbarthol yn gyfrifol am addysg leol.

Argymhelliad arall yw bod angen "ad-drefnu'n llwyr swyddogaethau'r awdurdodau addysg lleol" yn y tymor hir.

Mae'r corff arolygu Estyn wedi dweud eisoes nad oes digon o staff addysg ar gynghorau, nad ydyn nhw'n gallu darparu cymorth arbenigol.

Mesurau arbennig

Mae bron chwarter y gwasanaethau addysg yng Nghymru wedi cael eu rhoi mewn mesurau arbennig am nad oedd yr addysg gafodd ei darparu'n cyrraedd y safon.

Awdur yr adolygiad yw Robert Hill oedd yn arfer cynghori'r cyn Brif Weinidog Tony Blair.

Ei amcan oedd gweld sut y byddai modd gwella'r ffordd mae addysg yn cael ei darparu yng Nghymru - ar lefel ysgolion unigol a hefyd o ran gwaith yr awdurdodau lleol.

Dywedodd fod y ffaith fod cymaint o awdurdodau bach yn un o "brif ffactorau cyfrannol" y broblem.

"Er gwaethaf hyn, mae cynghorau wedi bod yn amharod i ystyried penodi cyfarwyddwyr gwasanaethau addysg ar y cyd a/neu gyfuno gwsanaethau," meddai'r adroddiad.

'Codi safonau'

"Mae'r Gymdeithas Llywodraeth Leol yng Nghymru wedi cydnabod bod 'y system yn tanberfformio a'i bod hi'n annerbyniol ac yn anghynaliadwy'."

Dywedodd fod adolygiad o bedwar consortiwm yng Nghymru yn 2012 wedi awgrymu "arwyddion o gynnydd".

"Serch hynny, mae eu perfformiad yn amrywio gormod," meddai'r adroddiad.

Mae'r adolygiad wedi dweud nad yw "trefniadau arweinyddiaeth yn gweithio'n iawn".

Y rheswm am hynny oedd "bod y pobl anghywir wedi eu recriwtio" a bod "dryswch yngl欧n 芒 beth yn union oedd pwrpas y swydd".

Wrth gyflwyno'r adroddiad yn Siambr y Cynulliad, dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews: "Dwi wedi ei wneud yn glir iawn fy mod i am godi safonau a lefel perfformiad ym mhob rhan o'r byd addysg.

"Os ydyn ni i gyflawni'r hyn rydyn ni'n gwybod beth sydd angen ei wneud i wella ein gwasanaethau addysg, rhaid i ni nid yn unig ganolbwyntio ar ddeilliannau dysgwyr, rhaid i ni hefyd sicrhau cydlyniant rhwng ein sefydliadau a rhagoriaeth y sefydliadau hynny.

'Cynhwysfawr'

"Fe hoffwn i ddiolch i Robert am yr adroddiad cynhwysfawr a thrwyadl hwn.

"Mae'r opsiynau y mae'n eu rhoi gerbron yn dal sylw rhywun ac mae ganddyn nhw'r potensial i newid ffurf a strwythur y ddarpariaeth addysg yng Nghymru er gwell.

"Mae'n bwysig fod pawb yn cymryd rhan yn llawn yn ein hymgynghoriad i'n helpu ni i wneud y gwelliannau angenrheidiol er mwyn troi system addysg dda yn un wych."

Mae llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas wedi wedi dweud: "Rhaid i ni sicrhau y bydd gwasanaethau ar gael yn lleol a bod atebolrwydd yn y system.

"Mae hyn yn neilltuol o bwysig yn enwedig yn achos anghenion arbennig a darpariaeth yn yr iaith Gymraeg.

"Yn sicr, mae angen tystiolaeth y bydd strwythur newydd yn codi safonau ac yn arwain at arweinyddiaeth yn ein hysgolion ni.

"Rydym yn credu y dylai cynghorau gydweithredu ond rhaid sicrhau y bydd safonau a darpariaeth yn cael eu cynnal yn y byrddau lleol.

'Fframwaith cenedlaethol'

"Ond mae angen fframwaith cenedlaethol ..."

Dywedodd Aled Roberts, llefarydd addysg y Democratiaid Rhyddfrydol: "Dwi'n poeni bod amserlen y gweinidog ar gyfer ailwampio'n afrealistig.

"Yn wyneb y ffaith fod yr ymgynghori'n dod i ben yn Hydref ... bydd y newidiadau'n dod i rym erbyn Ebrill 2004.

"Mae 'na berygl y bydd cymaint o sylw ar y strwythur fel y byddwn yn colli golwg ar wendidau pellgyrhaeddol, gan gynnwys ansawdd datblygu proffesiynol ac arweinyddiaeth ysgolion."

'Perfformiad'

Dywedodd llefarydd addysg y Blaid Geidwadol Angela Burns: "Mae'r gweinidog wedi s么n yn hy am ailstrwythuro awdurdodau lleol ond mae'r adroddiad hwn yn pwysleisio'r angen i ganolbwyntio ar safonau dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

"Tra y gallai rhannu swyddi rhwng awdurdodau lleol wella effeithlonrwydd, mae bygwth ailstrwythuro llywodraeth leol yn llwyr yn tynnu ein sylw oddi ar yr angen brys i wella perfformiad addysgiadol.

"Dylem sicrhau ei bod hi'n haws i awdurdodau lleol, ysgolion ac ystafelloedd dosbarth rannu'r arfer orau."