Ymgyrch i hybu tatws Sir Benfro

Ffynhonnell y llun, Huw Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae ymgyrch newydd yn gobeithio hybu tatws Sir Benfro

Mae ymgyrch newydd i hybu tatws Sir Benfro yn gobeithio cynyddu gwerthiant a herio poblogrwydd 'Jersey Royals'.

Fel rhan o'r ymgyrch bydd y tatws yn cael eu hysbysebu ar y teledu am y tro cyntaf ar 24 Mehefin.

Dywedodd Walter Simon, ffermwr yn Sir Benfro sydd yn tyfu tatws, ei bod yn falch iawn bod y tatws yn cael eu hybu.

"Rwyf wrth fy modd," meddai, "mae'n hen bryd bod arian yn cael ei wario ar farchnata ein cynnyrch.

"Mae angen i ni dreuddio i ymwybyddiaeth siopwyr.

"Mae hwn yn gynnyrch da ac rydym am i bobl wybod amdano."

Mae Mr Simon wedi bod yn tyfu tatws am 30 mlynedd ac yn tyfu tua 10 gwahanol fath.

"Ffresni yw un o fanteision mawr ein tatws," dywedodd.

"Maent yn gallu bod ar silffoedd y siopau ymhen 24 awr o gael eu pigo.

"Maen nhw'n gynnyrch lleol a Chymraeg."

Blas y Tir

Cwmni Puffin Produce sydd yn arwain yr ymgyrch i hybu'r tatws trwy ddefnyddio brand newydd, Blas y Tir.

Dywedodd rheolwr-gyfarwyddwr y cwmni, Huw Thomas, ei fod yn credu bod tatws Sir Benfro ymhlith y gorau o gynnyrch Cymru.

"Mae tatws Jersey Royals wedi bod yn boblogaidd dros ben dros y blynyddoedd diwethaf ond rydym yn anelu at adennill y goron," meddai.

"Rydym yn gobeithio, o fewn y chwe mis nesaf, y bydd tatws Sir Benfro yn cael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig.

"Bydd hyn yn golygu mai dim ond tatws sydd wedi eu tyfu yma gall cael eu labelu fel tatws sy'n dod o Sir Benfro."

Bydd yr hysbysiad teledu ar ITV1 am 7.15pm ar 24 Mehefin.