麻豆官网首页入口

Oriel: Dathlu cestyll Cymru

  • Cyhoeddwyd
Caernarvon Castle, 1777 gan Samuel Hieronymus Grimm (1733-1794)
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae cestyll gwych Cymru yn cael eu dathlu mewn arddangosfa o ddyfrlliwiau, lluniau a phrintiau yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd. Un o'r lluniau sydd i'w gweld yw hwn o Gastell Caernarfon, sy'n dyddio o 1777, gan Samuel Hieronymus Grimm (1733-1794).

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dechreuodd y gwaith ar Gastell Caernarfon ar 么l i Edward I orchfygu Cymru yn 1277 pan aeth ati i gryfhau ardaloedd gwrthryfelgar o ogledd Cymru. Ers hynny, mae'r gaer wedi dod yn safle ar gyfer arwisgo Tywysog Cymru - gydag Edward VIII yn cael ei arwisgo yno yn 1911 a Thywysog Charles yn 1969.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Castell Cydweli hefyd yn ymddangos yn yr arddangosfa, sy'n cynnwys gwaith o'r 1670au i'r 1860au gan artistiaid fel Henry Gastineau, Paul Sandby, Thomas Girtin a Richard Wilson. Hugh Grecian Williams wnaeth y darlun hwn o Gastell Cydweli.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Castell Eingl-normanaidd yw Castell Cydweli. Mae'r tyllau llofruddio a ddefnyddiwyd gan amddiffynwyr i daflu neu arllwys creigiau, d诺r ac olew berwedig a thywod poeth ar ymosodwyr yn dal yno.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Hwn yw'r tro cyntaf i rai o'r darluniau gael eu harddangos. Mae'r llun dyfrlliw hwn o Gastell Caerffili gan John Inigo Richards.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adeiladwyd Castell Caerffili a adeiladwyd gan yr uchelwr Gilbert deClare, Arglwydd Morgannwg rhwng 1268 a 1271. Roedd eisiau amddiffyn ei hun yn rhag Llywelyn Ein Llyw Olaf, tywysog olaf Cymru unedig cyn concwest Edward I.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Castell Dolwyddelan gan WG Jennings yn un o'r lluniau i'w gweld yn yr arddangosfa - mae cyfle i ymwelwyr ei weld rhwng nawr a 29 Medi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adeiladwyd Castell Dolwyddelan yn gynnar yn y 13eg ganrif fel un o gadarnleoedd tywysogion Gwynedd. Yn 1283 cafodd ei ddal gan Edward I.