Galw am fenthyg i roi hwb i'r economi

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth Cymru eisiau mwy o arian cyfalaf

Dylai Llywodraeth Prydain wario mwy o arian ar seilwaith - dyna yw neges llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Mae Jane Hutt yn cytuno gyda gweinidogion cyllid y ddwy lywodraeth ddatganoledig eraill, sy'n dweud bod angen cynyddu benthyg er mwyn buddsoddi mewn prosiectau newydd.

Maent yn dadlau bod nawr yn amser da i wneud hyn gan fod cyfradd llog yn isel.

Bydd y Canghellor George Osborne yn cyhoeddi ei adolygiad gwariant ddydd Mercher.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod nhw'n pryderu y gallai hyn olygu toriadau pellach i'w cyllideb.

Yn 么l Ms Hutt, byddai gwario mwy ar seilwaith yn creu swyddi a byddai'r economi yn elwa o hynny yn y tymor hir.

Mae hi, ynghyd 芒 John Swinney o'r Alban a Sammy Wilson o Ogledd Iwerddon, wedi ysgrifennu at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander i alw am gyllideb cyfalaf fwy dros y blynyddoedd nesaf.

Barn Ms Hutt yw y dylai'r arian gael ei godi drwy fenthyg yn hytrach na thrwy dorri gwasanaethau.

Dywedodd: ""Mae gennym lawer o brosiectau seilwaith pwysig y gellir eu dwyn ymlaen i wneud defnydd o adnoddau ychwanegol a gwneud cyfraniad cadarnhaol at dwf yn economi'r DU.

"Rydym nawr yn annog Llywodraeth y DU i wneud popeth o fewn eu gallu i gefnogi'r gwaith yr ydym yn ei wneud drwy roi hwb i'n cyllidebau cyfalaf er mwyn ein galluogi i fuddsoddi yn y seilwaith sy'n angenrheidiol ar gyfer hybu twf a chreu swyddi."

Mae George Osborne eisiau arbed 拢11.5 biliwn o adrannau Llywodraeth y DU yn 2015/16.

Bydd y cyllidebau ar gyfer ysgolion a'r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, ynghyd 芒 chymorth dramor, yn cael eu diogelu.