麻豆官网首页入口

Galw am warchod gwasanaethau i bobl h欧n

  • Cyhoeddwyd
Nyrs mewn cartref gofalFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae ymgyrchwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i warchod gwasanaethau hanfodol i bobl h欧n rhag toriadau.

Dywed Age Alliance Cymru y gallai Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) achub gwasanaethau sy'n cadw pobl h欧n yn iach.

Mae'r gr诺p o 17 o elusennau wedi croesawu ymrwymiad yn y mesur i awdurdodau lleol i gydweithio gyda sefydliadau eraill i ddarparu rhai "gwasanaethau ataliol", ond mae'n rhybuddio bod rhaid i hynny gynnwys gwersi ymarfer corff, addysg i oedolion a gwasanaethau garddio.

Dywed Age Alliance Cymru os na fydd hynny'n digwydd mae risg y gallai'r gwasanaethau pwysig yma gael eu colli.

'Diffinio'r term'

Dywedodd cadeirydd Age Alliance Cymru Robert Taylor: "Mae'n hanfodol yn yr hinsawdd economaidd bresennol bod Llywodraeth Cymru a'r holl asiantaethau yn gweithio gyda'i gilydd i leihau effaith toriadau ar bobl h欧n.

"Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd sicrhau bod digon o gyfleoedd i bobl h欧n i fod yn rhan o weithgareddau yn eu cymunedau lleol.

"Mae 'gwasanaethau ataliol' yn gwneud gwahaniaeth parhaol i wella bywydau pobl h欧n ar draws y wlad."

Mae'r gr诺p am weld diffinio'r term 'gwasanaethau ataliol' yn cael ei gynnwys yn y Mesur arfaethedig, gan gynnwys :-

  • Unrhyw ymdrechion i leihau'r risg o ddirywiad corfforol a meddylion, damweiniau, salwch ac i hybu llesiant corfforol, cymdeithasol, emosiynol a seicolegol;

  • Gwasanaethau sy'n galluogi pobl i fyw yn annibynnol neu i gefnogi pobl i fyw yn annibynnol;

  • Gwasanaethau sy'n ceisio hybu safon byw, hunan-benderfyniad ac ymrwymiad cymunedol.

'Cysyniad eang'

Wrth ymateb i'r alwad, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:

"Rydym yn croesawu'r gefnogaeth gan Age Alliance Cymru i'n Mesur Gofal Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) a'r pwyslais cryf ynddo ar yr angen am wasanaethau ataliol ac ymyrraeth fuan.

"Mae hyn yn hanfodol os yw gofal cymdeithasol am fod yn gynaliadwy yn y dyfodol gyda llai o arian ar gael.

"Mae gwasanaethau ataliol yn cael eu diffinio fel cysyniad eang sy'n lleihau'r angen am ddulliau mwy dwys o ofal.

"Nid yw hyn yn cael ei ddiffinio yn benodol yn y Mesur am ein bod am weld ystod eang iawn o wasanaethau yn datblygu drwy'r awdurdodau lleol a'u partneriaid.

"Mae'r rheolau a ch么d ymddygiad a fydd yn dilyn y ddeddfwriaeth gychwynnol yn darparu'r cyfle i roi mwy o fanylion am sut y bydd y fframwaith cyfreithiol yn cael ei weithredu yn ymarferol."