Carwyn Jones: 'Her fawr' i'r Gymraeg

Disgrifiad o'r llun, Carwyn Jones s'yn arwain y Gynhadledd Fawr

Mae'r her sy'n wynebu'r iaith yn fawr - dyna oedd neges Carwyn Jones wrth annerch y Gynhadledd Fawr yn Aberystwyth heddiw.

Roedd canlyniadau'r Cyfrifiad, oedd yn dangos gostyngiad o 2% mewn siaradwyr Cymraeg, yn "sioc" ac yn "siom", meddai.

Dywedodd nad oedd gan ei lywodraeth "fonopoli ar syniadau" a'i fod yn awyddus i glywed syniadau pobl yngl欧n 芒 sut i roi hyder i bobl siarad Cymraeg.

Mae'r Comisiynydd Iaith Meri Huws wedi dweud y dylai'r Gymraeg gael ei hystyried mewn cysylltiad 芒 phob ardal polisi.

'Hyder'

Dywedodd Mr Jones: "Mae gyda ni ganllawiau cynllunio sy'n gorfod cael eu cyhoeddi cyn yr hydref - dyna un rhan o'r broses ac ry'n ni hefyd yn edrych unwaith eto ar y ffordd ry'n ni'n datblygu addysg Gymraeg.

"Does dim monopoli gyda ni yngl欧n 芒 syniadau. Mae lot o gefnogaeth wedi cael ei rhoi ond y cwestiwn yw beth arall y gallwn i ei roi yn y dyfodol agos? Mae'n rhaid i ni roi hyder i bobl.

"Un o'r pethe ry'n ni'n ffindo, dim cymaint yn y gogledd ond yn y de, yn Sir G芒r, yw hyder pobl yn y Gymra'g.

"Os ydi pobl yn colli hyder yn eu Cymr芒g smo nhw'n mynd i drosglwyddo'r iaith i'r genhedlaeth nesaf.

"Felly nid dim ond mater o arian yw e ond sicrhau ffindio ffyrdd i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith."

'Sawl ateb'

Yn siarad yn y cynhadledd fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws ddadlau bod angen i'r iaith fod yn ystyried pan yn llunio polisiau ymhob maes.

Dywedodd: "Mae digwyddiad fel hwn, wrth gwrs, yn bwysig gan ei fod yn gyfle i ddod 芒 phobl o wahanol gefndiroedd proffesiynol, diwylliannol, daearyddol ac oedran at ei gilydd i drafod yr heriau a'r cyfleoedd sydd yna wrth ystyried dyfodol y Gymraeg.

"Fy mhrif neges heddiw yw tanlinellu mor bwysig yw hi i ystyried y Gymraeg fel rhywbeth llorweddol ar draws meysydd polisi.

"Nid un ateb sydd yna i sicrhau dyfodol y Gymraeg, ond sawl ateb, a dyna pam mae hi'n bwysig bod y Gymraeg yn cael ei phrif-ffrydio ac yn dod yn ystyriaeth ganolog mewn polis茂au sy'n ymwneud 芒'r economi, cynllunio, cyfiawnder cymdeithasol, addysg, iechyd, gofal ac yn y blaen.

"Mae hi'n bwysig hefyd bod y polis茂au hyn yn ystyrlon i'r dinesydd, ac yn rhoi'r un hawl i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r Gymraeg lle bynnag mae nhw'n byw yng Nghymru."

TAN 20

Fe wnaeth y Prif Weinidog hefyd gadarnhau y bydd yn cyhoeddi Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 20 diwygiedig yn gynnar yn yr hydref

Mae tua 150 o fudiadau yn cymryd rhan yn y digwyddiad ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai hwn oedd y tro cyntaf i drafodaeth ar y Gymraeg gael ei chynnal ar raddfa mor eang ac eisoes mae dros 2,000 o bobl wedi cymryd rhan yn yr arolwg ar-lein.

Hwn yw'r digwyddiad cynta' sy'n ymwneud 芒'r iaith ers i Carwyn Jones gymryd cyfrifoldeb am y portffolio iaith Gymraeg wedi iddo ad-drefnu ei gabinet yn dilyn ymddiswyddiad y cyn weinidog addysg a'r iaith Gymraeg, Leighton Andrews.

Mae modd dilyn y drafodaeth yn fyw ar y we.

'Prin yw'r buddsoddiad'

Un mudiad sydd eisoes wedi cynnig eu barn yw'r gr诺p ymbar茅l Mudiadau Dathlu'r Gymraeg.

Maen nhw wedi cyflwyno dogfen drafod i'r Gynhadledd Fawr sy'n dadlau bod angen buddsoddiad yn yr iaith sy'n cyfateb 芒'r lefelau yng Ngwlad y Basg.

Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi 1% o'i chyllideb mewn prosiectau penodol i hybu'r Gymraeg.

Mae'r gr诺p yn cynnwys 23 o fudiadau a dywedodd cadeirydd y gr诺p Huw Thomas: "Bwriad ein papur trafod yw amlinellu ffyrdd lle yr ydym, fel mudiadau, yn credu y gellid cyrraedd nodau ac amcanion y Llywodraeth.

'Adnoddau'

"Cred Mudiadau Dathlu'r Gymraeg fod angen rhagor o adnoddau i sicrhau ffyniant i'r Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Hefyd dylid arallgyfeirio gwariant presennol i sicrhau cyfran deg i ddatblygu a chryfhau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg."

"Oherwydd patrymau gwariant hanesyddol, prin yw buddsoddiad y llywodraeth yn y Gymraeg. Araf hefyd yw'r ymgais i brif-ffrydio'r Gymraeg drwy adrannau'r Llywodraeth ac yn aml nid yw polis茂au newydd yn cymryd i ystyriaeth Strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth.

"Mae 'na fuddsoddiad llawer helaethach yn yr iaith Fasgeg, a gwelwn fod y buddsoddiad hwnnw'n dwyn ffrwyth gyda chynnydd yn nifer siaradwyr yr iaith.

Ffynhonnell y llun, other

Disgrifiad o'r llun, Mae modd cyfrannu i'r Gynhadledd Fawr ar wefannau Facebook a Twitter

"Mae canlyniadau diweddar y Cyfrifiad yn amlygu nifer o heriau a wyneba'r Iaith, ond credwn fod meysydd penodol lle gellid buddsoddi a fyddai o fudd nid yn unig i'r Gymraeg ond i nifer o amcanion eraill y Llywodraeth."

Sut i wylio?

Mae'r Gynhadledd Fawr rhwng 10am a 4pm ddydd Iau, Gorffennaf 4.

Ac mae modd i bobl sy'n gwylio ar-lein wrando ar areithiau, ymuno yn y trafodaethau a gofyn cwestiynau i'r panel.

Gallwch ymuno yn y gynhadledd drwy fynd i .

Mae modd hefyd i gyfrannu drwy wefan Twitter (#iaithfyw), Facebook (facebook.com/Cymraeg), dros y ff么n (01239 711668) ac e-bost (iaithfyw@iaith.eu).