Doctoriaid yn colli ffydd mewn bwrdd iechyd

Ffynhonnell y llun, Eric Jones

Disgrifiad o'r llun, Mae'r bwrdd iechyd yn bwriadu trafod y problemau gyda chlinigwyr

Mae meddygon sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor wedi colli ffydd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mewn llythyr mae ymgynghorwyr o'r ysbyty yn dweud nad ydyn nhw'n credu fod gan y rheolwyr y gallu i wneud y newidiadau sy'n angenrheidiol er mwyn gwella gofal mewn ysbytai.

Mae beirniadaeth yn y llythyr hefyd o strwythurau'r bwrdd iechyd ac mae'r ymgynghorwyr yn dweud nad ydyn nhw'n addas i'w pwrpas.

Dywedodd y bwrdd iechyd y bydden nhw'n cynnal trafodaethau gyda chlinigwyr er mwyn mynd i'r afael 芒'r problemau.

Ond mae Aled Roberts AC wedi galw ar y gweinidog iechyd i ymyrryd, a bod y llythyr yn creu darlun o fwrdd iechyd mewn "anhrefn llwyr".

'Cleifion mewn perygl'

Mae Dr Tony Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorwyr Arbenigol Gwynedd, yn dweud bod doctoriaid profiadol yn poeni gallai ffaeleddau arweiniol roi cleifion mewn perygl:

"Mae llawer o ymgynghorwyr sydd wedi gweithio yma am y 30 mlynedd diwethaf yn dweud nad ydynt erioed yn cofio pethau mor ddrwg... yn benodol mae problemau o ran cyfraddau heintiau a chyfraddau marwolaethau - maent yn uwch nag y maent wedi bod," meddai Dr Roberts.

"Mae yna nifer o ddigwyddiadau anffafriol wedi cael eu cofnodi gan ymgynghorwyr... nid yw rhai cleifion ar y wardiau cywir. Nid yw eraill sydd angen bod mewn ysbyty yn cyrraedd yno. Rydym hefyd yn ansicr yngl欧n 芒 sut y mae'r sefydliad yn adrodd digwyddiadau anffafriol.

"Pan fydd ymgynghorwyr yn s么n am anawsterau ac yn dweud nad yw pethau'n gweithio, maen nhw wedi cael gorchymyn i gau eu cegau ac mae pwysau mawr yn cael ei roi arnyn nhw mewn llawer o ffyrdd gwahanol er mwyn eu hatal rhag dweud bod pethau wedi mynd o'i le."

Mae Dr Roberts yn dweud fod y ffaith nad yw rheolwyr ac uwch feddygon yn cyfathrebu yn rhan o'r broblem:

"Rydym ni'n cael ein trin fel unigolion sydd angen cael eu rheoli. Mae'r wybodaeth sydd wedi cael ei roi i ni yn bytiog ac mae'n dueddol o fod yn newyddion da nid drwg."

'Newid pwyslais'

Yn 么l yr ymgynghorwyr, mae angen "newid pwyslais" fel bod rheolwyr yn gallu ymateb yn well i bryderon lleol.

Mae'r rhybudd yn cael ei roi ar y diwrnod mae uwch-reolwyr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dilyn adroddiad diweddar.

Roedd yr adroddiad, a gafodd ei ysgrifennu ar y cyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, yn un hynod o feirniadol.

Fe benderfynodd Cadeirydd y bwrdd, yr Athro Merfyn Jones, ymddiswyddo o'i herwydd.

Un o'r ffaeleddau oedd yn cael ei ddisgrifio yn yr adroddiad oedd bod y berthynas rhwng yr Athro Jones a Phrif Weithredwr y Bwrdd Mary Burrows wedi dirywio yn llwyr - fe wnaeth Ms Burrows ddweud y byddai' hi yn gadael ei swydd hefyd.

Fe wnaeth yr ymchwiliad hefyd ddarganfod bod y bwrdd iechyd yn wynebu problemau ariannol a bod afiechydon fel C.difficile yn fwy cyffredin na mae'r bwrdd yn cyfaddef.

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Rydym yn cydnabod ein bod wedi derbyn y llythyr a gyflwynwyd gan staff meddygol ymgynghorol Ysbyty Gwynedd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

"Bydd y Bwrdd yn ystyried ei ymateb yn y cyfarfod bwrdd ym mis Gorffennaf a materion eraill sydd angen eu datrys ar frys - bydd strwythur y sefydliad a'r pwyslais ar reoli safleoedd lleol yn rhan o'r ymateb hwnnw.

"Byddwn yn cynnal trafodaethau gyda chlinigwyr wrth i ni symud ymlaen i fynd i'r afael 芒'r materion sy'n cael eu codi yn yr adroddiad."

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydden nhw hefyd yn cyfarfod yr ymgynghorwyr.

Meddai llefarydd ar ran y llywodraeth: "Mae trefniadau ar y gweill i ddarparu'r bwrdd gydag unrhyw gymorth trosiannol cryf hyd nes y bydd Cadeirydd a Phrif Weithredwr newydd yn eu lle.

"Bydd barn yr ymgynghorwyr yn cael ei ystyried gan y t卯m trosiannol a'r t卯m parhaol. Mae'r Cyfarwyddwr Cyffredinol gwasanaeth iechyd Cymru David Sissling yn bwriadu cyfarfod gydag ymgynghorwyr yng ngogledd Cymru yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod y materion a godwyd."

Mater brys

Yn ol yr aelod cynulliad dros ogledd Cymru Aled Roberts, mae angen i'r gweinidog iechyd Mark Drakeford ymchwilio i mewn i honiadau'r meddygon.

Dywedodd bod y llythyr gan feddygon yn creu darlun o fwrdd iechyd mewn anhrefn llwyr:

"Mae'n hynod bwysig bod y gweinidog yn ymateb i'r honiadau ar frys. Mae gogledd Cymru yn haeddu gwasanaeth iechyd sy'n addas ar gyfer anghenion y bobl."

Mae'r aelod dros y Democratiaid Rhyddfrydol yn credu ei fod yn hanfodol bod modd i weithwyr godi unrhyw bryderon am y gwasanaeth, ond nad oes digon o gyfarwyddiadau i weithwyr:

"Rydyn ni'n gwybod bod 'na broblemau difrifol gyda bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr.

"Mae'r adroddiad diweddar i mewn i reolaeth y bwrdd yn un o'r mwyaf damniol ers i mi weithio yn y sector gyhoeddus. Mae'n rhaid gweithredu i wella'r problemau hyn."