Amseroedd aros: Cynnydd 'anferth'

Disgrifiad o'r llun, Mae dros 400,000 yn aros am driniaeth yng Nghymru

Mae'r nifer o bobl sy'n aros am driniaeth gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi codi mwy na 10,000 i ffigwr sydd bron yn cyrraedd 407,000.

Gwelir o ffigyrau gan Ystadegau Cymru fod 8,900 o gleifion yn aros dros 36 wythnos hyd at ddiwedd Mai sy'n cynrychioli cynnydd o 1,300 er mai targed gweinidogion yw dim cynnydd.

Yn 么l y Ceidwadwyr mae'r "cynnydd anferth" oherwydd fod y gwasanaeth iechyd yn "sgrialu" i geisio cydbwyso'r llyfrau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol ym mis Ebrill.

Mae'r 麻豆官网首页入口 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru, wnaeth gyhoeddi adolygiad gwario o fewn iechyd yr wythnos hon, am ymateb.

'Gwarthus'

Mae'r ffigyrau hefyd yn dangos fod dros 8,900 wedi bod yn aros dros 36 wythnos am driniaeth - targed y llywodraeth yw sicrhau bod neb yn aros mwy na 36 wythnos.

Yn ogystal mae dros 34,000 wedi bod yn aros rhwng 26 a 36 wythnos.

Mae Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Kirsty Williams wedi dweud bod y ffigyrau yn "warthus".

Dywedodd: "Alla i ddim credu bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi caniat谩u'r sefyllfa hon i fynd o sefyllfa ddrwg i un erchyll. Pan fyddaf yn holi'r Prif Weinidog am yr argyfyngau sy'n dyfnhau yn ein gwasanaeth iechyd, ei ateb bob amser yw bod 'pethau'n gwella'.

"Rydw i wedi clywed am gladdu eich pen yn y tywod, ond mae hyn y tu hwnt i j么c.

"Boed yn ambiwlansys, amseroedd aros gofal brys, neu amseroedd aros canser mae targedau yng Nghymru yn cael eu methu'n gyson.

"Os fyddai'r targedau'n cael eu methu o drwch blewyn byddai hynny'n arwydd calonogol fod pethau'n gwella, fodd bynnag dydyn nhw ddim. Mae'r ffigurau hyn yn dangos ein bod yn agos at bwynt argyfwng."

Toriadau

Dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Darren Millar: "Wrth i fyrddau iechyd frwydro i gydbwyso eu llyfrau o dan y cwmwl o doriadau digynsail Llafur, mae miloedd o apwyntiadau'n cael eu canslo, gan adael cleifion heb y llawdriniaethau maent eu hangen".

"Mae adroddiad damniol diweddar ynglyn a'r gwasanaeth iechyd yng Ngogledd Cymru yn tynnu sylw at yr union bwynt yma - ac rwy'n ofni fod yr un peth wedi digwydd ar draws Cymru.

"Erbyn hyn mae gorfod aros yn hir am driniaeth yn gyffredin.

"Mae'n annheg ar gleifion a'u teuluoedd - yn enwedig rhai sydd mewn poen, sy'n dioddef o ansawdd bywyd gwael ac sy'n fregus," meddai.

Ddydd Mawrth fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gyhoeddi adolygiad i lefelau cyllideb y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Ymateb y llywodraeth

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru: "Oherwydd pwysau tymhorol a brofon ni ddechrau'r flwyddyn mae llawer o gleifion yn dal i fod yn disgwyl yn hirach na maen nhw fod am asesiad a thriniaeth.

"Ein blaenoriaeth yw darparu triniaeth ar gyfer y bobl yma ac rydym yn ceisio cymryd camau i gyrraedd y targedau cenedlaethol ac mae'r gweinidog yn disgwyl gweld gwelliannau yn ystod y misoedd nesaf.

"Er ein bod ni'n cydnabod bod perfformiad wedi gwaethygu'r mis hwn mae'r mwyafrif o gleifion yn dal i fod yn aros llai na 26 wythnos.

"Mae pob bwrdd iechyd wedi ymrwymo i wella'u perfformiad ac yn sgil hyn wedi llunio cynllun adfer er mwyn dangos sut bydden nhw'n sicrhau gwelliannau i ofal wedi ei drefnu a gofal heb ei drefnu yn ystod 2013/14."